Swansea University Home - Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Swansea University Arts and Humanities

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Ysgoloriaethau ar gyfer Ieithoedd Modern a'r Cyfryngau - mwy o wybodaeth


Mererid Hopwood

Mae Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig gwledd o ddewisiadau a chyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda phob math o opsiynau a modiwlau ar gael yn yr iaith, o newyddiaduraeth i hanes cyfoes Cymru, does yna ddim rheswm i'ch addysg Cymraeg orffen wrth i chi adael yr ysgol. Mae yna nifer fawr o fanteision i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol, gyda mwy a mwy o gyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt yn ystyried y Gymraeg yn sgil ychwanegol yn y gweithle.

Mererid Hopwood

Yn Abertawe, cewch addysg Gymraeg gan ddarlithwyr o'r radd flaenaf. Rydym yn gwneud ymchwil blaengar ac arloesol mewn meysydd mor amrywiol â hanes ffilm a datblygiad y Wladfa, ac mae hynny'n sbardun i'n dysgu ni. Cewch flasu'r brwdfrydedd hynny wrth i chi astudio gyda ni ar gyrsiau sy'n cyfuno theori ac ymarfer. Gallwch ddilyn modiwlau unigol neu gyrsiau cyfan yn y meysydd hyn:


  • Almaeneg
  • Astudiaethau'r Cyfryngau
  • Diwylliant Cymru
  • Ffrangeg
  • Sbaeneg


Cewch eich dysgu drwy sawl dull gwahanol gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau mewn grwpiau bychain, trafodaethau sy’n cael eu harwain gan fyfyrwyr a gweithdai ymarferol. Bydd hyfforddiant hefyd yn ein labordai cyfrifiadurol a'n stiwdio gynhyrchu, a chewch gyfle ar ôl cyfle i ddatblygu'ch sgiliau cyflwyno a chyfathrebu er mwyn eich gwneud chi'n gystadleuol yn y byd gwaith.

Valid XHTML 1.0 Transitional