Swansea University

Swyddfa'r Gyfadran Ymchwil

Mae'r Gyfadran Ymchwil, sydd wedi'i lleoli yn y Gofrestrfa Academaidd, yn rhoi cymorth a hyfforddiant i bob myfyriwr ôl-raddedig.  
Mae staff Swyddfa'r Gyfadran Ymchwil yn gyfrifol am gefnogi'r Gyfadran Ymchwil Ôl-raddedig, adrannau a myfyrwyr ar faterion gweinyddol yn ymwneud â materion myfyrwyr ôl-raddedig. Mae'r rhain yn amrywio o gynnig cyngor ar faterion rheoliadol i roi tystysgrifau wrth gyflwyno traethodau ymchwil/traethodau hir.

Gall staff Swyddfa'r Gyfadran Ymchwil roi cyngor i fyfyrwyr a staff ar faterion yn ymwneud â darpariaeth ôl-raddedig a addysgir yn ogystal ag ymgeisiaethau gradd ymchwil. Llunnir llawlyfr academaidd bob blwyddyn, a gaiff ei roi i bob myfyriwr ôl-raddedig. Mae manylion yr ysgoloriaethau ôl-raddedig sydd ar gael i fyfyrwyr ar gael o'r wefan hon.

Mae Swyddfa'r Gyfadran Ymchwil yn goruchwylio'r gwaith o gynnal a chadw'r system adrodd ar-lein, paratoi gwybodaeth ar gyfer amrywiaeth o bwyllgorau a phrosesu ceisiadau ar gyfer ymestyn ymgeisiaethau.

Staff Swyddfa'r Gyfadran Ymchwil, sy'n gweithio ar y cyd â'r Deon a'r Is-ddeoniaid, sy'n sicrhau bod adrannau'n cydymffurfio â rheoliadau a gweithdrefnau'r Brifysgol.

Dylid cyfeirio ymholiadau yn ymwneud â Swyddfa'r Gyfadran Ymchwil at Lucy Priestley.

Manylion Cyswllt
Jed Chandler
Swyddog Hyfforddiant Ymchwil Ôl-raddedig
est.5876 | 01792 295876
j.chandler@abertawe.ac.uk
 
Lucy Priestley BSC(Anrh.)
Swyddog Gweinyddol
est. 2063 | 01792 602063
l.a.priestley@abertawe.ac.uk

Lesley Thomas
Cynorthwyydd Ysgrifenyddol
est.5132 | 01792 295132
l.a.thomas@abertawe.ac.uk


Charlotte Rigdon BA
Cynorthwyydd Clercaidd
est. 5132 | 01792 295132
c.e.rigdon@abertawe.ac.uk