Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno cais cynllunio amlinellol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ei ystyried.
Bydd gweledigaeth Prifysgol Abertawe o greu gwell cyfleusterau ar gyfer addysgu a dysgu ar draws safleoedd y ddau gampws, a galluogi myfyrwyr, academyddion ac ymchwilwyr i gydweithio â byd diwydiant, yn debygol o esgor ar y prosiect Economi Wybodaeth mwyaf yn y DU. Rhagwelir ymhellach y bydd y Prosiect yn un o’r pum prosiect Economi Wybodaeth mwyaf o’i fath yn Ewrop ac mae’n argoeli y bydd yn enghraifft drwy gydol y byd, yn hyrwyddo’r synergedd Addysg Uwch a Diwydiant i yrru ffyniant economaidd rhanbarthol.
Trwy gydol yr ehangu, bydd Prifysgol Abertawe’n parhau i adeiladu ar ei chryfder a’i threftadaeth fel prifysgol campws – a thrwy hynny sicrhau cymuned gampws hyd yn oed yn gryfach a phrofiad myfyrwyr sy’n ennill gwobrau.