Cynghorir neu ofynnir i chi wneud profiad gwaith ymarferol (yn aml heb gyflog) mewn rhai sectorau. Gall hyn fod gyda phob math o gyflogwr.
Bydd pori'r dolenni ar y wefan hon yn rhoi nifer o bosibiliadau i chi. Man cychwyn defnyddiol arall yw'r Cyngor Cenedlaethol dros Brofiad Gwaith sy'n cynnwys banc o gyfleoedd profiad gwaith.
Gall profiad gwaith fod yn ffurfiol, wedi ei strwythuro neu'n flwyddyn mewn diwydiant ond byddwch yn gallu ennill profiad mewn unrhyw fath o swydd gan gynnwys gwaith rhan amser drwy'r Shop Swyddi, gwaith gwirfoddol dros elusennau yn ogystal â blas ar waith am un diwrnod yn unig.
Cofiwch fod y rhai hynny sy'n cyflogi graddedigion yn cynnig lleoliadau dros y gwyliau ac yn edrych ar hyn fel rhan o'r broses recriwtio - bydd hyn yn rhoi'r cyfle iddynt ddarganfod darpar weithwyr a bydd yn fanteisiol i chi os ydych am geisio am swydd gyda'r sefydliad hyn yn hwyrach.
Mae un grwp, sydd o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr, a elwir yn 'Elusennau', yn cwmpasu sefydliadau sydd wedi eu cofrestru'n ffurfiol yn ogystal â grwpiau 'gwirfoddol'. Bydd cyflogwyr yn mynd i'r afael â phob math o faterion, ond gan fwyaf yn y sectorau cymdeithasol, lles, cymunedol a grwpiau diddordebau arbennig. Dewch o hyd i ddolenni ar gyfer elusennau a'r cyfleoedd sydd ar gael yn y DU, Cymru ag ardal Abertawe, a thramor ar ein gwe-ddalennau Elusennau a sefydliadau blwyddyn allan a Gwirfoddoli yng Nghymru.