Yn asesiad 2021, cafodd 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol ei hystyried o safon sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol – cynnydd o 80% oddi ar yr ymarfer REF blaenorol yn 2014.

Rydym yn parhau i gael ein cydnabod am effaith ein hymchwil, sy'n gwneud gwahaniaeth real, cadarnhaol i fywydau pobl ar hyd a lled y byd. Mae 86% o’n hymchwil, a gafodd ei beirniadu gan banel o arbenigwyr REF, yn cael effaith eithriadol a sylweddol iawn o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd, ar lefel leol, ranbarthol a byd-eang.

Mae 91% o’n hamgylchedd ymchwil yn cael ei ystyried o safon sy’n arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol (a chynnydd o 6 pwynt % ers REF 2014). Mae hyn yn atgyfnerthu'r ffaith bod Prifysgol Abertawe yn amgylchedd rhagorol i fyfyrwyr neu academyddion gynnal ymchwil, a honno'n ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithredwyr o bob cwr o'r byd. Mae ein hymchwil yn darparu effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, barhaus a gwerthfawr yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Darganfod mwy am ein canlyniadau REF 2021

 

Amdanom ni

Gwnewch ymchwil gyda ni

Mae gennym gymuned myfyrwyr ymchwil ffyniannus ac rydym yma i gefnogi eich ymchwil.

Trwy gydweithredu â phrifysgolion a phartneriaid diwydiant blaenllaw eraill, rydym yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr arloesol. Darganfyddwch fwy am ein Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol (DTPs) a Chanolfannau Hyfforddiant Doethurol (CDTs).

Rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau a gwobrau i fyfyrwyr sy'n dilyn PhD, MPhil, MRes neu Feistr trwy astudiaethau Ymchwil a hyfforddiant a datblygiad ar gyfer myfyrwyr ymchwil a goruchwylwyr.