Rhesymau dros ddewis Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe
Adran gyfeillgar : sylw personol
Y mae'r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn adran fechan, gyfeillgar, gyda'r staff a'r ystafelloedd dysgu i gyd wedi eu lleoli ar yr un coridor. Maint y dosbarthiadau mwyaf yw oddeutu 20, a rhyw 6 o fyfyrwyr a fydd mewn dosbarth seminar. Mae hynny gan fod Lefel 2 a Lefel 3 yn cael eu dysgu a'u hasesu ar wahân gan haneru maint dosbarthiadau. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr dderbyn mwy o sylw personol a hefyd i ddatblygu'n raddol. Credwn yma ei bod yn annheg dysgu ac asesu myfyrwyr Lefel 2 ochr yn ochr â myfyrwyr Lefel 3 sydd wedi bod yn astudio'r Gymraeg am flwyddyn ychwanegol.
Adran flaengar : datblygu sgiliau
Mae'r Adran hefyd yn un uchelgeisiol iawn. Y mae'r staff am weld eu myfyrwyr yn llwyddo, fel ag y mae eu parodrwydd i ddysgu Lefel 2 a 3 ar wahân yn ei awgrymu. Mae'n Adran sydd hefyd yn datblygu'n barhaus, wrth i'r staff ailstrwythuro eu modiwlau'n gyson gan gynnig hefyd fodiwlau newydd.
Ynghyd â chynnwys y modiwlau, y mae staff yr Adran hefyd yn diwygio'n gyson eu dulliau dysgu ac asesu, gan roi pwys ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu'r myfyrwyr, ar lafar ac ar bapur, nid eu gwybodaeth yn unig.
Os am astudio'r Gymraeg mewn Adran flaengar a chyfeillgar, yna dewch i Abertawe.