Swansea University Home - Derbyniadau

STRWYTHUR Y RADD

Tudur Hallam

 

 

Cynigir y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe fel cynllun gradd Anrhydedd Sengl tair neu bedair blwyddyn. Mae’r rhaglen Anrhydedd Sengl bedair blynedd wedi’i chynllunio i bontio’r bwlch cychwynnol sy’n bodoli rhwng myfyrwyr iaith gyntaf a myfyrwyr ail iaith. Mae hefyd yn bosib astudio’r Gymraeg fel gradd Anrhydedd Sengl ynghyd â phwnc arall fel elfen leiaf, e.e. Cymraeg ag Astudiaethau Busnes, Astudiaethau Cyfrifiadurol neu Astudiaethau Cyfreithiol. Mae graddau Cyd-anrhydedd tair a phedair blynedd ar gael ynghyd â phynciau eraill yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau a hefyd â’r Gyfraith a Seicoleg.

 

Tudur Hallam, Cymraeg

 

Cyrsiau Gradd Cymraeg a Chodau UCAS

Lyfryn Cymraeg

 

Mae gan staff academaidd y Gymraeg enw da byd-eang ar gyfer safonau eu hymchwil ac rydym yn ymrwymedig i ddarparu rhaglenni dysgu gwirioneddol gyffrous o ystod ddeallusol eang, sy’n gyffrous ac yn heriol. Mae ein tîm o ddarlithwyr a thiwtoriaid brwdfrydig yn ymdrechu i gynorthwyo dechreuwyr a myfyrwyr ail iaith i feistroli eu hiaith ddewisol. Mae ein myfyrwyr ail iaith yn astudio mewn awyrgylch cynnes a chyfeillgar a chânt gyfle i ryngweithio â darlithwyr a chyd-fyfyrwyr, wrth i studying Welsh droi’n astudio'r Gymraeg. Mae ein myfyrwyr iaith gyntaf yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o brofiadau, dulliau dysgu ac asesu.

 

 

Y GRADDAU GOFYN A GWYBODAETH AM DDYDDIAU AGORED

 

 

Rydym yn croesawu pob ymholiad a chais. Ein cynnig fel rheolar gyfer BA Anrhydedd Sengl a Chyd-anrhydedd yw BBB ar lefel Safon Uwch neu 300 pwynt tariff, o leiaf tri phwnc Safon Uwch neu gyfwerth, gan gynnwys 100 pwynt Safon Uwch Cymraeg. Rydym yn gwahodd y rhan fwyaf o’n hymgeiswyr i Ddiwrnod Agored llawn lle rydym yn rhoi cyfle i chi sgwrsio’n anffurfiol  ag aelodau o’r staff dysgu, myfyrwyr presennol a bydd cyfle i chi gael eich tywys o gwmpas y Brifysgol, gan gynnwys ymweld â llety ar y campws. Mae Prifysgol Abertawe gyda’r gorau yn y Deyrnas Unedig am hwyluso mynediad i addysg uwch i fyfyrwyr anabl

 

 

Os ydych yn fyfyriwr iaith gyntaf ac yn penderfynu cyfuno’ch gradd â Iaith Ewropeaidd neu Astudiaethau Americanaidd, byddwch yn treulio’ch trydedd/pedwaredd blwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor cyn dychwelyd i Brifysgol Abertawe ar gyfer eich blwyddyn olaf.

 

 

Ewch i’r cyswllt gwe am wybodaeth ynglyn ag astudiaethau ôl-raddedig.

 

 

Ein nod yw gweld ein myfyrwyr yn llwyddo yn academaidd ac yn mwynhau eu hamser yn Abertawe. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu eich sgiliau llafar ac ysgrifenedig ac am eich paratoi ar gyfer adeg pan fyddwch yn graddio ar gyfer y Gymru fodern sydd ohoni.

Cymraeg (ail iaith)

 

 

 

Gwybodaeth Diwrnod Agored Prifysgol Abertawe.

Cyswllt gwe i fywyd myfyrwyr, materion ariannol a gwybodaeth astudio.

 

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe 

 

 

Valid XHTML 1.0 Transitional