Newyddion Diweddaraf
Datganiadau a newyddion diweddaraf
- Gwobr Goffa Syr Ellis Griffiths
Cyhoeddwyd mai Dr Tudur Hallam o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe yw enillydd gwobr Goffa Syr Ellis Griffiths yn 2009 am ei gyfrol Canon ein Llên. Dyfernir y wobr gan Brifysgol Cymru am y gwaith gorau yn y Gymraeg ar lenorion Cymraeg neu ar eu gweithiau, neu ar arlunwyr neu grefftwyr Cymreig. Cyhoeddwyd Canon ein Llên yn 2007 yn y gyfres bwysig ‘Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig’ a olygir gan yr Athro John Rowlands. Y cysyniad o ganon llenyddol yn y Gymraeg yw pwnc yr astudiaeth ac ymdrinnir ynddi â syniadau beirnadol Saunders Lewis, R M Jones ac Alan Llwyd. Disgrifiwyd y gyfrol gan yr Athro M Wynn Thomas yn un ‘dreiddgar a thrylwyr’.
- Cofiant D.J. Williams, Abergwaun
Y mae Mr Robert G Rhys newydd dderbyn ysgoloriaeth awdur gwerth £5000 gan yr Academi Gymreig i'w alluogi i weithio ar ei gofiant i'r llenor a'r ymgyrchwr gwleidyddol D J Williams (1885-1970). Defnyddir yr arian i brynu cymorth dysgu yn ystod semestr cyntaf 2009-10 pan fydd Mr Rhys ar gyfnod sabothol.
- Y Gamp Lawn
Gwnaeth Dr Mererid Hopwood hanes eisteddfodol am yr eildro pan enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfodol Genedaethol Caerdydd a'r Cylch 2008 am ei nofel 'O Ran.' Pan gipiodd Mererid y Gadair ym Mhrifwyl Dinbych 2001, hi oedd y ferch gyntaf eriod i wneud hynny. A hithau wedi ennill Coron Eisteddfod Meifod 2003 ers hynny, pan safodd ar ei thraed i ganiad y corn gwlad yng Nghaerdydd eleni gwnaeth hanes eto, gan mai hi yw'r unig ferch sydd wedi ennill tri phrif dlws yr Eisteddfod Genedlaethol eriod - ac yn wir, dim ond y trydydd person yn holl hanes yr Eisteddfod i wneud hynny.
Derbyniodd ei nofel feirniadaeth hael gan y beirniaid: Mae'n nofel 'hudolus', meddent, gan 'awdur mwyaf caboledig y gystadleuaeth.'
Mae Adran y Gymraeg yn ymfalchio yn noniau Dr Hopwood, ac yn ymhyfrydu'n arbennig yn y ffaith mai hi yw tiwtor Ysgrifennu Creadigol yr Adran. A hithau wedi profi ei dawn ddiamheuol mewn barddoniaeth gaeth a rhydd, ac mewn rhyddiaith, pwy gwell i hyfforddi ac ysbrydoli awduron addawol y dyfodol
- Celfyddyd Barddoni
Comisiwyd Dr Christine James yn Fardd y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008. Y cais oedd iddi lunio tua 10 cerdd yn ymateb i’r gweithiau yn yr arddangosfa gelf weledol ar faes yr Eisteddfod, a dangososwyd y cerddi ochr yn ochr â’r gweithiau a’u hysbrydolodd.
‘Roedd cyfansoddi 10 cerdd mewn cyfnod byr yn fwy o her nag a ddisgwyliwn,’ meddai Christine, ‘yn enwedig oherwydd fy mod am sicrhau bod amrywiaeth yn y cyfryngau celf yr oeddwn yn ymateb iddynt – paentiadau, ffotograffau, cydosodiadau, ac yn y blaen – yn ogystal ag yn y ffurfiau a ddefnyddiwn wrth ysgrifennu.
‘Nid disgrifio’r gweithiau celf yn uniongyrchol yw nod y cerddi,’ meddai ‘ond eu defnyddio i ddehongli fy mhrofiadau i fy hun mewn ffordd sy’n creu disgwrs creadigol rhwng dau gyfrwng gwahanol.’
Mae Christine eisoes wedi cael sawl cyfle i gyflwyno’r cerddi: yn Y Lle Celf ar Faes yr Eisteddfod, yng nghynhadledd flynyddol Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Bangor, ac yn Seminar Ymchwil yr Adran Gymraeg yma ym Mhrifysgol Abertawe.
Cyhoeddwyd cerddi’r Lle Celf, ynghyd â delweddau o’r gweithiau, yn y cylchgrawn Taliesin, rhifyn 135 (Gaeaf 2008).
- Gwobr Ryngwladol i ‘ar ddechrau’r daith’
8 Ebrill 2008
Am yr ail flwyddyn yn olynol yr oedd Dr Christine James ymhlith enillwyr y categori Cymraeg yn y gystadleuaeth farddoniaeth ryngwladol bwysig, Féile Filíochta, a drefnir yn flynyddol gan Gyngor Sir Dún Laoghaire-Rathdown gan ddenu miloedd o ymgeiswyr mewn deg iaith Ewropeaidd wahanol.
Ysbrydolwyd cerdd Dr James, ‘ar ddechrau’r daith’, gan arddangosfa archaeolegol yr ymwelodd â hi yn ystod y Gyngres Geltaidd Ryngwladol a gynhaliwyd yn ninas Bonn yn yr Almaen fis Gorffennaf y llynedd, ac y mae’n enghraifft dda o sut y mae diddordebau academaidd a chreadigol Dr James yn elwa ar ei gilydd.
Ar hyn o bryd y mae Christine James yn mwynhau cyfnod rhydd oddi wrth ei dyletswyddau academaidd arferol yn sgil ennill un o Ysgoloriaethau Awduron yr Academi Gymreig, sy’n caniatáu iddi ganolbwyntio ar ei barddoni.
- Llwyddiant yn yr Eisteddfod Rhyng-golegol
22 Chwefror 2008
Cipiwyd nifer o wobrau gan ein myfyrwyr yn yr Eisteddfod Rhyng-golegol yng Nghaerfyrddin:
Tlws y Dysgwyr:
1af - Charlotte James; 2il - Margaret Rodgers; 3ydd - Bonita Saunders
Portread i ddysgwyr:
1af - Rachel Arnold; 2il - Stephanie Pedrick; 3ydd - Lisa Hancock
Cerdd i ddysgwyr: 2il - Margaret Rodgers
Portread:1af - Alun Rhys Chivers
Ymson: 1af - Alun Rhys Chivers
Dywedodd yr Athro Dafydd Johnston, "Braf iawn oedd gweld llwyddiant rhai o fyfyrwyr yr Adran yn yr Eisteddfod Rhyng-golegol eleni. Llongyfarchiadau mawr iddynt i gyd!"
- Taith i Rydychen
23 Ionawr 2008
Bu Dr A Cynfael Lake yn Rhydychen yr wythnos diwethaf (17 Ionawr 2008). Rhoddodd bapur ar lenyddiaeth boblogaidd y ddeunawfed ganrif i gynulleidfa o Ôl-Raddedigion yng Ngholeg yr Iesu. Teitl ei bapur oedd “Dull Dogs and Bumpkins”.
- Pwy yw Iago Trichrug? Cyflwyno James Hughes
1 Rhagfyr 2007
Cyhoeddodd Mr Robert Rhys astudiaeth James Hughes, neu 'Iago Trichrug', yng nghyfres Llên y Llenor. Bydd y gyfrol yn taflu goleuni ar un o ffigyrau llenyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn ymdrin â'r cysylltiadau rhwng llythyrau, emynau a chofiannu. I weld manylion am y llyfr cliciwch yma.
- Tanio trafodaeth ar y 'Canon'
25 Tachwedd 2007
Cyhoeddwyd cyfrol gyntaf Dr Tudur Hallam Canon ein Llen: Saunders Lewis, R.M. Jones ac Alan Llwyd yn y gyfres Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig. Meddai Gwasg Prifysgol Cymru: '[...]mae cwestiynau Tudur Hallam bob amser yn dreiddgar a'i atebion yn peri inni edrych o'r newydd ar ffurf a chynnwys y canon llenyddol Cymraeg.' Am wybodaeth bellach gan y cyhoeddwyr cliciwch yma.
- Cwblhau cam cyntaf prosiect Baledi Huw Jones, Llangwm
2 Hydref 2007
Erbyn hyn mae rhan gyntaf gwaith prosiect Dr A Cynfael Lake, Baledi Huw Jones, Llangwm - a ariannwyd y gan y Bwrdd Gwybodau Celtaidd - wedi ei gwblhau a thua 220 o faledi wedi eu cop¿o a'u golygu. Y cam nesaf fydd paratoi detholiad o hanner cant o faledi ar gyfer ei gyhoeddi. Yr ail gam fydd paratoi gwefan a fydd yn cynnwys golygiad o’r holl gerddi ynghyd â thrawsysgrifiad o’r cerddi yn union fel y cofnodwyd hwy yn y llawysgrifau a’r ffynonellau print. Meddai Dr Lake: "Y mae’r gwaith a wnaed hyd yn hyn yn cadarnhau fod Huw Jones yn un o awduron poblogaidd pwysicaf y ddeunawfed ganrif. Bydd y detholiad yn gymar i’r casgliad o anterliwtiau o waith Huw Jones a gyhoeddais gyda Barddas yn 2000, sef Anterliwtiau Huw Jones o Langwm."
- Agor drws Y Deildy: datblygiad diweddaraf Prosiect Dafydd ap Gwilym
19 Medi 2007
Lansio fforwm trafod cyhoeddus yw'r cam diweddaraf yn esblygiad www.dafyddapgwilym.net. Meddai Ifor ap Dafydd: 'Gobeithia tîm y Prosiect y bydd Y Deildy yn cynnig cyfle, nid yn unig i drafodaeth academaidd, ond hefyd i ennyn ymateb poblogaidd a chreadigol. Mae'r Prifardd Mererid Hopwood, ac eraill, wedi postio cerddi yno eisoes. Mae'r Deildy ar agor i bawb, felly dewch draw i gofrestru a chyfrannu.'
- Y XIII Gyngres Geltaidd, Bonn
23-27 Awst 2007
Mae'r Athro Dafydd Johnston a'r Dr Christine James yn Bonn yr wythnos hon i draddodi papurau yn y ;Gyngres Geltaidd. 'Ambiguity in Medieval Welsh Poetry ' yw teitl papur yr Athro Johnston, a bydd Dr James yn traethu am 'Not on Tables of Stone: Translating the Ten Commandments into Welsh.' Gallwch ymweld â gwefan y gynhadledd drwy glicio yma.



