Swansea University Home - Gair gan ein Myfyrwyr

Swansea University Arts and Humanities

Gair gan ein Myfyrwyr

Sylwadau rhai o fyfyrwyr presennol yr Adran

Rydym yn falch o'r berthynas gyfeillgar rhwng y staff a'r myfyrwyr sy'n gwneud yr adran yn le dymunol iawn i astudio. Dyma air gan rai o'n myfyrwyr am eu profiad yn Adran y Gymraeg a'r Brifysgol.

Charles Wilson

Gorseinon (Lefel 3)

Rwy’n astudio Cymraeg ac Eidaleg yma ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd e’n ddewis anodd i ddod o hyd i brifysgol – mae llawer o bethau i feddwl amdanynt. Yn y pen draw, Abertawe oedd y dewis amlwg. Yn gyntaf, edrychwch chi ar y campws ffantastig. Ger canol y ddinas a Phenrhyn Gwyr, mae llawer o gyfleoedd i gymdeithasu a mwynhau chwaraeon. Mae Prifysgol Abertawe yn estyn yn gyflym, mae Undeb y Myfyrwyr yn weithgar iawn, ac Adran y Gymraeg yw’r lle i fod! Mae’r staff ar agor i fyfyrwyr ac mae’r cwrs yn ddynamig. Mae’r holl awyrgylch yn gyfeillgar ac yn gysurus. Mae llawer o lenyddiaeth ar gael yn y cwrs, ond rwyf wedi dysgu llawer am hanes ac ieithyddiaeth hefyd. Weithiau, rwy’n credu y dylid galw'r cwrs yn “Cymraegoleg”! Yn ystod fy ngradd, rwyf wedi gwirfoddoli, ac wedi cymryd rhan weithredol yng ngwaith Undeb y Myfyrwyr, felly mae fy mhrofiad yma wedi bod yn fwy na dim ond gradd; mae wedi rhoi imi ffrindiau gwych, sgiliau newydd, a syniad o sut mae pethau'n gweithio yn y byd.

Peggi Rodgers

Califfornia (Lefel 1 - Ail Iaith)

Dewisais i Brifysgol Abertawe am amryw resymau. Cwrddais â chynrychiolwyr y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006, a chefais argraff dda o iawn o beth ddywedon nhw wrthof fi am rhaglen Gymraeg y Brifysgol. Cefais argraff dda o dre Abertawe hefyd; y lleoliad, y siopa, a'r adloniant. Oedd disgwyliadau uchel gyda fi ac mae Prifysgol Abertawe wedi byw lan iddyn nhw. Mae fy nosbarthiadau yn heriol ac rwy'n ddysgu llawer o Gymraeg. Rydwi wedi cael argraff dda o fy athrawon -  mae'n nhw yn wybodus ac yn eithaf parod i helpu gyda amynedd a chalondid. 

Bydd pawb yn dweud wrthych chi "Does dim siaradwyr Cymraeg yn Abertawe". Dyna anwiredd. Rwy i wedi dod o hyd i lawer o siaradwyr Cymraeg yma - mae tri yn byw yn yr un fflatiau a fi, ac rwy'n cwrdd â siaradwyr ymhobman. Mae llawer o ddigwyddiadau Cymraeg yn y ddinas a'r ardal hon, a digon o gyfleoedd i rhyngweithio â siaradwyr brodorol a dysgwyr eraill. Rwy'n hapus iawn i mi ddewis Prifysgol Abertawe.

Alun Rhys Chivers

Abertawe (MPhil)

Fel boi lleol, ro'n i'n awyddus i gael y profiad o fod yn fyfyriwr 'ma hefyd. Dwi'n teimlo nad ydych chi'n llwyr gyfarwydd a'r lle nes i chi brofi bywyd fel myfyriwr yn y ddinas. Mae'r Adran yn fach, ac mae pawb yn cyd-fyw o fewn cymuned glos, ac mae naws anffurfiol yn perthyn i'r Adran. Wnes i fwynhau'r cwrs yn fawr gan fod cymaint o amrywiaeth ar gael. Mwynheais i farddoniaeth yr ugeinfed ganrif yn enwedig, oherwydd y gwleidyddiaeth; rhoddodd Ysgrifennu Creadigol gyfle i fi ddatblygu fy sgiliau ysgrifennu; ac mae'r cyfle i ddilyn cwrs cyfieithu wedi fy arwain at ennill cymhwyster proffesiynol yn y maes ar ol i mi raddio. Erbyn hyn, dwi'n fyfyriwr MPhil rhan amser ym maes iaith, diwylliant a chwaraeon. 

Mae rhai o'r nosweithiau myfyrwyr gorau wedi bod yng nghwmni'r Gym-Gym, gan gynnwys curo Aberystwyth yn yr Eisteddfod Ryng-gol ym Mangor y llynedd! Ar ben y cyfleoedd i gymdeithasu, mae llawer o gyfleoedd i gael gwaith drwy'r Gymraeg hefyd. Dwi'n gynorthwy-ydd tiwtorial yn dysgu ar fodiwl iaith yn yr adran, a dwi'n gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion yn y Ganolfan Addysg Barhaus. Astudio'r Gymraeg yn Abertawe oedd y penderfyniad cywir i fi, yn sicr!

Elen Meri Jones

Caerfyrddin (Lefel 3)

Mae Prifysgol Abertawe yn hollol deilwng o’r wobr a enillodd yng nghystadleuaeth y Times yn 2005 sef ‘the best uni experience’. Er bod dros 15,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y brifysgol, mae’r campws yn hynod gartrefol. Mae lleoliad y brifysgol yn ddelfrydol tu hwnt - mewn parc ar lan y môr! Ceir cyfleusterau gwych ar y campws; digonedd o le am baned o de, pryd o fwyd, siop lyfrau a swyddfa bost i enwi ond ychydig. Teimlais yn gartrefol o’r cychwyn cyntaf yn yr Adran Gymraeg, yn bennaf gan fod yr adran yn un gweddol fychan. Mae’r darlithwyr yn gyfeillgar iawn a bob tro yn barod i gynnig cyngor a chymorth ar broblemau academaidd, allgyrsiol neu bersonol. Rwy’n teimlo fod y cwrs a gynigir yn ddiddorol iawn gan fod amrywiaeth eang o bynciau yn cael eu trafod. Cynigir modiwlau hanesyddol a chymdeithasol yn ogystal â llenyddol ac ieithyddol.
Ar yr ochr gymdeithasol, mae Abertawe'n le gwych am noson allan gyda’ch ffrindiau yn yr Undeb neu ar Stryd y Gwynt yn y ddinas. Rwy’n teimlo’n hynod falch o ddweud fy mod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’r profiadau rwyf wedi eu cael yma a’r ffrindiau rwyf wedi eu gwneud yn mynd i fod yn rhan bwysig o’m mywyd am byth.
 

Valid XHTML 1.0 Transitional