Swansea University Home - RAE 2008

Swansea University Arts and Humanities

RAE 2008

Abertawe ar y brig

Dangosodd canlyniadau’r RAE a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2008 fod 95% o’r ymchwil a wnaed gan aelodau’r Adran yn ystod cyfnod yr asesiad o safon ryngwladol neu o safon uwch na hynny. Dyma’r ganran uchaf o blith holl Adrannau Cymraeg prifysgolion Cymru. Barnwyd bod 65% o’r ymchwil o safon 3* (rhagoriaeth ar wastad rhyngwladol) neu o safon 4* (safon sy’n arwain y ffordd yn rhyngwladol). Dim ond Adrannau Cymraeg Abertawe ac Aberystwyth a lwyddodd i gyrraedd y sgor hwn.

Enillodd yr Adran sgor o 5 yn yr arolwg blaenorol a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 2001. Er bod y dull a ddefnyddiwyd i raddio’r ymchwil yn wahanol ar y ddau achlysur, tystia’r ddau ganlyniad i safon uchel yr ymchwil dros gyfnod o ddegawd a mwy yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe. Y mae’r canlyniad hefyd yn arwydd o ymroddiad holl ddarlithwyr yr Adran i waith ymchwil. Yn wahanol i’r arfer mewn nifer o ddisgyblaethau eraill yr oedd cyfraniad pob aelod o’r staff yn cyfrif ar y ddau achlysur.

Yn ystod cyfnod yr arolwg paratowyd golygiad safonol Dr Christine James o waith Gwenallt (2001) a golygiad Dr A Cynfael Lake o waith y bardd o’r 16g Lewis Morgannwg (2004). Cyhoeddwyd monolog Mr Robert G Rhys ar James Hughes ‘Iago Trichrug’ ynghyd ag ymdriniaeth aroloesol Dr Tudur Hallam â’r canon llenyddol (Canon ein Llen) yn 2007, ac ymddangosodd astudiaeth benigamp yr Athro Dafydd Johnston ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol (Llen yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525) yn 2005. Yr oedd yr Athro Dafydd Johnston a Dr A Cynfael Lake yn gysylltiedig â’r prosiect i baratoi golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym, a hynny ar ffurf electronig; y mae’r golygiad a’r wefan uchelgeisiol eisoes wedi bod yn destun rhyfeddod ac edmygedd yng Nghymru a’r tu hwnt.

Y mae’r canlyniad yn destun balchder digymysg i holl aelodau’r Adran gan ei fod yn cydnabod rhagoriaeth yr ymchwil a wnaed gan Adran y Gymraeg yn ystod cyfnod yr arolwg.

Ceir manylion llawn am ganlyniadau’r RAE ar y safle hwn: http://www.rae.ac.uk.

Valid XHTML 1.0 Transitional