Ymchwil a Newyddion
Arolwg a Newyddion
Mae darlithwyr Adran y Gymraeg Abertawe i gyd yn ysgolheigion blaenllaw sy’n cynhyrchu ymchwil o safon ryngwladol. Dyfarnwyd gradd 5 i’r Adran yn Asesiad Ymchwil 2001, a dangosodd yr adroddiad RAE a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2008 fod 95% o'r ymchwil a wnaed gan aelodau'r Adran yn ystod cyfnod yr asesiad o safon ryngwladol neu o safon uwch na hynny. Dyma'r ganran uchaf o blith holl adrannau Cymraeg prifysgolion Cymru. Darllenwch fwy yma
Bu rhai o ysgolheigion enwocaf yr ugeinfed ganrif yn aelodau o’r Adran, gan gynnwys Henry Lewis, Stephen J. Williams, D. Ellis Evans, Brynley Roberts a Hywel Teifi Edwards a Dafydd Johnston, ac yma y lluniodd Saunders Lewis beth o’i feirniadaeth lenyddol bwysicaf.
Mae ein hymchwil yn cwmpasu llenyddiaeth Cymru o’r Oesoedd Canol hyd heddiw, gydag arbenigedd ar Gyfraith Hywel Dda, Beirdd yr Uchelwyr, y canu rhydd, llenyddiaeth grefyddol, anterliwtiau a baledi’r 18fed ganrif, nofelau Daniel Owen, Waldo Williams, a’r canon llenyddol. Mae rhai o’n staff yn feirdd adnabyddus sydd hefyd yn ymchwilio ym maes ysgrifennu creadigol.
Abertawe oedd cartref Prosiect Dafydd ap Gwilym a gynhyrchodd olygiad electronig arloesol o’i farddoniaeth yn ddiweddar. Mae’r gynhadledd ar lên y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a gynhelir yng Ngregynog yn flynyddol yn fodd i feithrin ymchwil newydd yn y maes hwnnw, ac fe gyhoeddir ffrwyth prosiect sydd newydd ei gwblhau ar faledi Huw Jones o Langwm yn fuan.
Gair o Gelf
Ein Prifeirdd yn cydweithio gydag artistiaid i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod
Bu Dr Mererid Hopwood a Dr Christine James o Adran y Gymraeg yn rhan o brosiect gelf uchelgeisiol a drefnwyd fel rhan o’r ymgyrch i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008.
Gwahoddwyd dau ar hugain o feirdd ac artistiaid blaenllaw a chanddynt gysylltiad agos â Chaerdydd i gydweithio fesul pâr a chynhyrchu cywaith o gelf a cherdd yn ymateb mewn rhyw fodd i’r brifddinas. Bu Mererid Hopwood yn cydweithio ag Iwan Bala, a dewis y thema ‘Dinas ar Daf’, tra mai’r diwydiant glo oedd sylfaen cywaith Christine James ac Ivor Davies.

Lansiwyd arddangosfa safonol o’r holl gyweithiau mewn noson arbennig a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ar 22 Tachwedd yng nghwmni’r Arglwydd Dafydd Elis Tomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd yr arddangosafa’n para yno hyd 6 Ionawr 2008, a cheir cyfle pellach i’w gweld yn Oriel Canfas, Caerdydd, 1-12 Awst 2008.
Y mae llyfr, cardiau cyfarch a chopïau cyfyngedig o’r cerddi a’r gweithiau celf i’w cael, a’r elw i gyd yn mynd i gronfa apêl Eisteddfod Caerdydd. Am ragor o wybodaeth cysyllter â: niabenaur@hotmail.com
Yn ôl Nia Richards, trefnydd y brosiect: ‘Bu’r fenter hon yn llwyddiant digamsyniol. Rydym wedi creu casgliad cyffrous o weithiau celf y gallwn ymfalchïo ynddynt fel cenedl.’
Tro yn y Gogledd
Trip myfyrwyr y flwyddyn bontio i Ogledd Cymru
Cafodd myfyrwyr y flwyddyn bontio drip llwyddiannus i Ogledd Cymru unwaith eto eleni. Mr Rhys a Dr Lake oedd yn gyrru'r bws mini y tro hwn, ac ymwelwyd â: Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth; y cwmni teledu Cwmni Da yng Nghaernarfon; Yr Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn ger Trawsfynydd, a sawl man diddorol arall. Treuliwyd tair noson yn y Bala gan fwynhau ambell drip i dafarndai'r dref i gymdeithasu yn Gymraeg.
Yn y llun fe welwch bontwyr 2005 yng nghwmni'r Bardd Cenedlaethol Gwyn Thomas. Gallwch wylio fideo o brofiadau pontwyr 2006 ar YouTube drwy glicio yma.
(Dalier Sylw: Emma John biau'r fideo. Nid yw'r Adran yn gyfrifol am ei gynnwys).



