Amdanon ni
Amdanon ni
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru yn rhan o Adran Addysg Barhaus Oedolion Prifysgol Abertawe. Cafodd y Ganolfan ei sefydlu yn 2006 o dan gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i greu chwe chanolfan ranbarthol trwy’r wlad i gynllunio a datblygu gwasanaeth dysgu Cymraeg i oedolion o’r radd flaenaf. Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion y De-Orllewin yn gwasanaethu siroedd Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr a Sir Benfro. Trwy weithio gyda nifer o bartneriaid yn y siroedd hyn, mae’r Ganolfan yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o gyrsiau ar draws y rhanbarth. Mae cyrsiau ar bob lefel – i rai sydd am wella’u Cymraeg yn ogystal ag i bobl sydd am ddechrau dysgu’r iaith. Fe gewch chi ddewis hefyd o ran amser y dosbarthiadau a pha mor aml maen nhw’n cwrdd. Ry’n ni hefyd yn darparu rhaglen helaeth o gyrsiau Cymraeg yn y Gweithle i gyflogwyr ac yn datblygu rhaglen o gyrsiau Cymraeg i’r Teulu ar gyfer rhieni a rhai eraill sydd am ddysgu Cymraeg er mwyn ei siarad gyda phlant.
Mae’r Ganolfan yn darparu un pwynt canolog ble gallwch chi droi am wybodaeth, cyngor ac arweiniad am yr holl gyfleoedd dysgu Cymraeg yn y De-Orllewin.
Tel: 01792 602070
Email: cymraegioedolion@abertawe.ac.uk
Website: www.dysgucymraegdeorllewin.org







