Sut i ddewis cwrs
Sut i ddewis cwrs
Dewis y lefel iawn
Mae pob cwrs nawr yn cael ei enwi yn unol â’r fframwaith dilyniant cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion sydd â 5 lefel:
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Pa mor gyflym?
Y ffordd orau i ddysgu iaith yw mynd ati dros eich pen a’ch clustiau, felly y cyrsiau â’r mwyaf o oriau cyswllt yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddysgu i bobl sy’n gallu rhoi digon o amser. Mae dechreuwyr yn gallu dilyn cyrsiau sy’n cwrdd unwaith yr wythnos neu gyrsiau mwy dwys gyda dau ddosbarth yr wythnos (neu 3 yr wythnos o Ionawr – Mehefin). Fel arfer, bydd cyrsiau unwaith yr wythnos yn gwneud un o’r lefelau uchod dros ddwy flynedd (3 blynedd ar lefel Uwch) a bydd y cyrsiau mwy dwys yn gwneud un lefel bob blwyddyn. Mae’r ddau lwybr yn dod at ei gilydd fel arfer wrth symud i fyny’r lefelau. I bobl sydd am ddysgu’n gyflym dros gyfnod byr, mae’r cwrs Mynediad + sy’n cwrdd 4 bore yr wythnos yn ddewis da (cliciwch yma am fanylion).
Chwiliwch am gwrs trwy ddewis y lefel iawn, y cyflymder iawn a’r lleoliad gorau i chi
Os ydych chi’n dal i chwilio am gyngor pellach, cysylltwch â ni yn y Ganolfan ar (01792) 60 20 70)












