Staff
Staff

Aled Davies, Cyfarwyddwr - yn gyfrifol am arwain a rheoli holl weithgareddau’r Ganolfan. Mae’n darparu arweiniad strategol ar gyfer y Ganolfan ac yn arwain ar newid a gwella’r gwasanaeth i ddysgwyr y Gymraeg yn y De-Orllewin.
(01792) 60 20 70
Sian Elizabeth Thomas, Rheolwr Busnes – yn gyfrifol am reoli agweddau gweinyddol ar waith y Ganolfan, gan gynnwys gwaith yn gysylltiedig â chytundebau trydydd-parti. Sian sy’n rheoli’r gweithdrefnau ar gyfer casglu data ac adrodd ar ddata a gasglwyd ac yn cynorthwyo gydag agweddau eraill ar waith y Ganolfan, gan gynnwys marchnata.
(01792) 60 26 38
Chris Reynolds, Swyddog Hyfforddi ac Ansawdd - yn gyfrifol am gyfundrefn sicrhau ansawdd ar gyfer yr holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn y rhanbarth a chynllunio darpariaeth hyfforddiant i diwtoriaid.
(01792) 60 26 41
Mark Stonelake, Swyddog Cwricwlwm ac Adnoddau - yn arwain datblygiadau yng ngwricwlwm Cymraeg i Oedolion yn y De-orllewin gan gynnwys datblygu adnoddau i gefnogi’r cyrsiau a ddarperir.
(01792) 60 26 42
Steve Morris, Darlithydd mewn Addysg Barhaus – yn gweithio ddeuddydd yr wythnos i’r Ganolfan yn arwain datblygiad strategaeth ymchwil genedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion a datblygiad gweithgaredd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn unol ag amcanion y strategaeth honno.
(01792) 29 53 73
Caryl Clement, Prif Diwtor/Drefnydd – yn arwain tîm tiwtor/drefnyddion y Ganolfan ac yn gyfrifol am gynllunio’r ddarpariaeth yn Nwyrain Sir Gâr.
(01269) 86 05 55

Siân Thomas, Tiwtor/Drefnydd – yn arwain ar gynllunio darpariaeth y Ganolfan yn Abertawe ac ar achredu’r cyrsiau ledled y rhanbarth.
(01792) 29 59 39
Helen Evans, Tiwtor/Drefnydd – yn arwain ar gynllunio darpariaeth y Ganolfan yng Nghastell-nedd Port Talbot.
(01792) 29 59 39
Lowri Gwenllian, Tiwtor/Drefnydd – yn gyfrifol am ddarpariaeth yn Nhy Tawe a dwyrain y ddinas ac yn arwain ar ddatblygu cyfleoedd i atgyfnerthu’r dysgu a chreu cysylltiadau gyda’r gymuned Gymraeg trwy ddysgu anffurfiol.
(01792) 64 22 94
Dewi Rhys-Jones, Tiwtor/Drefnydd – yn gyfrifol am ddarpariaeth ddwys ac uwch yn Sir Benfro.
(01437) 77 67 85

David Morgan, Tiwtor/Drefnydd Cymraeg yn y Gweithle – yn arwain darpariaeth y ganolfan i weithleoedd a datblygiad y gwasanaeth hwn.
(01792) 60 27 10
Rhian Haf Bevan, Tiwtor Dan-hyfforddiant – yn dysgu ar nifer o gyrsiau’r Ganolfan ac yn helpu gyda gwaith trefnu a datblygu tra’n dilyn hyfforddiant i ennill cymhwyster cenedlaethol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion.
(01792) 60 26 43
Rhian Richards, Tiwtor Dan-hyfforddiant – yn dysgu ar nifer o gyrsiau’r Ganolfan ac yn helpu gyda gwaith trefnu a datblygu tra’n dilyn hyfforddiant i ennill cymhwyster cenedlaethol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion.
(01792) 29 53 82
Bethan Llwyd Evans, Trefnydd Cymraeg i’r Teulu (rhan-amser) – yn datblygu darpariaeth cyrsiau i rieni neu i rai eraill sydd am ddysgu er mwyn siarad gyda phlant bach.
(01269) 86 05 55
Pat Taylor, Tiwtor – yn dysgu ar nifer o gyrsiau’r Ganolfan ac yn helpu gyda threfniadau’r cyrsiau yn Sir Gâr.
(01269) 86 05 55

Angharad Rowe, Tiwtor – yn dysgu ar nifer o gyrsiau’r Ganolfan ac yn helpu gyda threfniadau’r cyrsiau yn Abertawe.
(01792) 60 27 10
Islwyn Morgan, Rheolwr Swyddfa – ein troubleshooter – mae’n gyfrifol am gefnogi’r Cyfarwyddwr a sicrhau bod swyddfa’r Ganolfan yn rhedeg yn esmwyth.
(01792) 60 26 39
Neil Davies, Cynorthwy-ydd Ysgrifenyddol – ar y llinell flaen yn delio gydag ymholiadau i’r Ganolfan trwy’r llinell ffôn ac yn darparu cymorth gweinyddol i gefnogi gwaith y Ganolfan.
(01792) 60 20 70

Ruth Evans, Cynorthwy-ydd Ysgrifenyddol – yn delio gydag ymholiadau am gyrsiau’r Ganolfan ac yn darparu cymorth gweinyddol i gefnogi gwaith y Ganolfan
(01792) 29 57 66







