Ymchwil
Croeso i hafan Ymchwil Cymraeg i Oedolion.
Mae gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion y De-Orllewin gyfrifoldeb am ddatblygu a chynnal Ymchwil Cymraeg i Oedolion. Mae Steve Morris yn gweithio o fewn y Ganolfan fel Swyddog Ymchwil ac fe sy’n cydlynu’r gwaith yn y maes yma, yn ogystal â gweithio ar brojectau ymchwil penodol.
Bwriedir y wefan hon fel ‘ffenestr’ i’r holl waith ymchwil sy’n digwydd ym maes Cymraeg i Oedolion ar hyn o bryd. Ar ben hynny, mae’r wefan yn cynnig adnoddau i ymchwilwyr yn y maes – er enghraifft, Llyfryddiaeth Cymraeg i Oedolion a gwybodaeth am gyhoeddiadau perthnasol. Croesewir ymholiadau gan ymchwilwyr / darpar-ymchwilwyr yn y maes ac, yn yr un ffordd, wybodaeth am waith ymchwil sydd ar y gweill mewn sefydliadau eraill yng Nghymru a’r tu hwnt. Lledaenir gwybodaeth am waith ymchwil Cymraeg i Oedolion trwy’r wefan hon a hefyd trwy’r Gweithgor Ymchwil Cymraeg i Oedolion sy’n cwrdd ddwywaith y flwyddyn.
Manylion cyswllt:
e-bost s.morris@abertawe.ac.uk
ffôn (+44) 1792 295373






