Swansea University - News Archive


News & Events Archive for 2011

Items are listed in chronological order by publication date.



    Dathliad Dwbl i Fyfyriwr Hanes Morol

    Dathliad dwbl oedd hi heddiw (Iau, 26 Ionawr) i fyfyriwr rhagorol Peter Richards, a dderbyniodd ei MA (Meistr yn y Celfyddydau) yn Hanes Morol ac Ymerodrol o Brifysgol Abertawe – ac sydd hefyd wedi ennill gwobr fawreddog genedlaethol am ei draethawd hir ar Hanes Morol.


    Peter Richards Graddiodd Peter, sy'n byw ym Mhontardawe, o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau yng Nghynulliadau Graddio a Gwobrwyo'r Gaeaf, Prifysgol Abertawe, a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.

    Hefyd, enillodd wobr y Comisiwn Prydeinig ar gyfer Hanes Morol am ei draethawd hir ar hanes morol.

    Bu traethawd hir Peter, sef “An analysis of voyaging in ships of the East India Company from 1750-1833,” yn fuddugol er gwaetha'r cystadlu cryf gan fyfyrwyr MA ar draws y DU. 

    Dywedodd Peter: "Roeddwn i braidd yn hwyr yn cychwyn astudio hanes.  Bûm yn ddeintydd am flynyddoedd hir, ond penderfynais newid cyfeiriad yn sgil damwain.  Dwi'n hynod o falch o dderbyn fy MA, ac anrhydedd mawr yw derbyn gwobr y Comisiwn Prydeinig ar gyfer Hanes Morol."

    Wrth ddyfarnu'r wobr i Peter am ei draethawd hir, ysgrifennodd y dyfarnwr, "Mae'r traethawd hir hwn yn eithriadol o ran casglu data ac o ran maint y deunydd a gasglwyd ac a gyflwynwyd. Mae wedi'i ysgrifennu'n dda, mae'n dal y sylw, ac mae gafael yr awdur ar y deunydd yn aruthrol."

    Mae Peter yn ennill £100 o wobr, wedi'i noddi gan y Gymdeithas Gwybodaeth Forol, a chynigir cyfle iddo gyflwyno papur yn seiliedig ar ei ymchwil i Gynhadledd Ymchwilwyr Newydd y Comisiwn yng Nglasgow ym mis Mawrth.

    Dywedodd Huw Bowen, Athro Hanes Modern ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae cyflawniad Peter yn hynod o dda, yn ei MA a hefyd wrth ennill y wobr fawreddog hon.

    "Dyw'r Comisiwn Prydeinig ar gyfer Hanes Morol ond yn gwobrwyo traethodau hir o'r safon uchaf, a dylai Peter fod yn falch iawn o'i gyflawniad."

    Ychwanegodd Peter: "Dwi'n edrych ymlaen nawr at barhau fy ngwaith ymchwil presennol ar brosiect Gwaith Copr Hafod, yma yn Abertawe, a gobeithio parhau i wneud ymchwil i hanes morol yn y dyfodol."

News

What's Happening

Research