Swansea University - News Archive


News & Events Archive for 2011

Items are listed in chronological order by publication date.



    Gwydnwch a phenderfyniad Felicity yn dwyn ffrwyth

    Roedd dathliad dwbl i Felicity Curtis o Lanelli heddiw (dydd Gwener, Ionawr 27) pan raddiodd â Gradd Ail Ddosbarth Uwch mewn Bydwreigiaeth o Goleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe.


    Felicity Curtis Felicity, sy’n 34 oed ac yn fam i ddau o blant, yw enillydd gwobr fydwreigiaeth newydd y Coleg eleni hefyd, y Wobr Fydwreigiaeth Cyn-gofrestru er cof am Myfanwy McAteer.

    Cyflwynwyd gwobr Fydwreigiaeth Myfanwy McAteer, sy’n werth £50, am y tro cyntaf eleni er cof am gydweithiwr o fri a fu farw ddwy flynedd yn ôl.

    Roedd Myfanwy, neu Van fel yr oedd pobl yn ei nabod, yn Ddarlithydd mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe am sawl blynedd ac yn ddiweddarach yn Bennaeth ar Addysg Fydwreigiaeth hyd nes y bu’n rhaid iddi ymddeol oherwydd iechyd gwael.

    Bydd Felicity, sydd bellach yn gweithio fel bydwraig gymwysedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn derbyn y wobr gan Bennaeth dros dro Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Jane Thomas a’r Athro er Anrhydedd Gaynor McLean. 

    Meddai Susanne Darra, Pennaeth Addysg Fydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: “Dangosodd Felicity ymroddiad, ymrwymiad a chyrhaeddiad personol anhygoel. Mae ganddi agwedd ddifrifol ac angerddol tuag at fydwreigiaeth ac agwedd gref tuag at ei gwaith. At hynny, bu Felicity yn gweithio ag ymrwymiad eithriadol, gan gydbwyso bywyd teuluol â dau blentyn ifanc, i ddatblygu’n academaidd drwy gydol y rhaglen, a nawr mae ei hymdrech wedi dwyn ffrwyth.  

    “Mae ei llwyddiannau mewn ymarfer hefyd wedi’u cydnabod gan ei mentoriaid. Mae ganddi allu anhygoel i ddatblygu perthnasau gyda’r menywod yn ei gofal. Mae ei natur garedig a gofalgar wedi denu sylwadau ac mae’n rhaid bod hyn yn brofiad positif i’r menywod yn ei gofal.

    “Yn ystod blwyddyn olaf Felicity bu’n rhaid iddi wynebu trallod a wnaeth ddim ond gael effaith finimol ar ei chynnydd. Ei dygnwch a’i phenderfyniad, er gwaethaf y caledi hwn, a amlygodd ei hangerdd a’i hymrwymiad i’w gyrfa ddewisol. Dyma’r rhinweddau a gydnabyddir gan wobr Myfanwy McAteer.”

    Wrth sôn am ei gwobr, meddai Felicity: “Mae ennill gwobr Myfanwy McAteer yn anrhydedd fawr. Mynychais ddiwrnod coffa yn y Brifysgol ychydig fisoedd yn ôl a chlywais sawl menyw yn siarad o’u calonnau am Myfanwy gyda chymaint o nwyd a pharch. Er na chwrddais â hi erioed yn bersonol, rydw i’n gobeithio y gallaf ddilyn ei hesiampl a bod yn enillydd teilwng o’r wobr hon.”

    Mae’r Faglor mewn Bydwreigiaeth yn gwrs anodd tu hwnt ond bu’n rhaid i Felicity wynebu nifer o herion eraill yn ystod ei hastudiaethau.

    Meddai Felicity: “Mae gan y cwrs bydwreigiaeth ddigon o herion heb unrhyw bwysau ychwanegol yn eich bywyd. Ond heb rybudd o gwbl, wyth mis i mewn i’m hail flwyddyn, syrthiodd fy nhad annwyl a chanfuwyd fod ganddo ganser terfynol a phrin 15 wythnos yn ddiweddarach, wrth i mi agosáu at fy mlwyddyn olaf, bu farw. Brwydrais yn galed i gadw fy hun gyda’m gilydd. Gyda chymorth fy nheulu, fy ffrindiau, y darlithwyr a’m carfan ardderchog, ffeindiais ffordd drwyddi. 

    “Yna, wyth mis i mewn i’m blwyddyn olaf bu fawr fy annwyl fam-yng-nghyfraith a daeth fy mrawd-yng-nghyfraith, sy’n 33 oed ac sydd â Syndrom Down, i fyw gyda ni. 

    “Drwy gydol y caledi, daeth fy merched, fy ngwr a minnau ynghyd; Roeddwn i’n benderfynol, yn ymroddgar ac yn ymrwymedig i’m gradd ac roedd fy nheulu a’m ffrindiau yn ymroddgar ac yn ffyddlon i mi. A nawr dyma fi – wedi graddio fel bydwraig ac mae gen i swydd! Rydw i’n gwybod y byddai fy mam-yng-nghyfraith a’m tad annwyl yn hynod falch.”   

    Ychwanegodd Felicity: “Roedd y gefnogaeth a gefais gan y darlithwyr a’m carfan yn anhygoel; rydw i wrth fy modd fy mod yn graddio gyda nhw o ystyried y gallwn wedi cael fy ngadael y tu ôl yn hawdd.” 

News

What's Happening

Research