Academydd o Rydychen yn Pwyso a Mesur ‘Argyfwng Economaidd Go Iawn: Diwedd Prydain Rufeinig’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Bryan Ward-Perkins, o Goleg Trinity, Prifysgol Rhydychen yn traddodi darlith gyhoeddus ar Ddydd Mercher, Mawrth 14eg ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n cael ei chynnal gan Ganolfan Callaghan ar gyfer Astudio Gwrthdaro, Grym ac Ymerodraeth.

Mae'r ddarlith awr o hyd sy'n dwyn y teitl ' A Real Economic Meltdown the End of Roman Britain’ yn adeiladu ar syniadau a archwiliwyd gan Dr Ward-Perkins yn ei lyfr heriol a dadleuol The Fall of Rome and the End of Civilization (Rhydychen, 2005).

Yn y llyfr hwnnw heriodd Ward-Perkins y farn ysgolheigaidd traddodiadol ynglyn â diwedd y byd Groegaidd a Rhufeinig hynafol a gwawr yr Oesoedd Canol, a oedd yn pwysleisio trawsnewidiad heddychlon a chreu ffurfiau diwylliannol newydd.

Mae Ward-Perkins yn hytrach wedi ceisio tanlinellu’r anrhefn gwirioneddol a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwn, wrth i  drais a rhyfela hirfaith darfu’n angheuol  ar economi rhyngranbarthol soffistigedig y byd Rhufeinig ac arwain at ymddangosiad byd a nodweddwyd gan orwelion llawer yn fwy cyfyng o ran economi, diwylliant, cymdeithas, a gwleidyddiaeth. Mae ei ddarlith ' A Real Economic Meltdown the End of RomanBritain’ yn archwilio’r naratif hwn o drais ac aflonyddwch yn fanylach.

Canolfan Callaghan ar gyfer Astudio Gwrthdaro, Grym ac Ymerodraeth sy’n cynnal y digwyddiad. Wedi'i lleoli yn Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (RIAH), fe sefydlwyd y Ganolfan yn 2002, a'i hail-lansio yn 2009 gyda chylch gwaith ehangach fel un o Ganolfannau Ymchwil blaenllaw Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Mae'r Ganolfan yn ailgasglu nifer fawr o ysgolheigion a myfyrwyr ôl-raddedig at ei gilydd sydd ag arbenigedd ymchwil ym meysydd gwrthdaro, grym  ac ymerodraeth ac sy’n cynhyrchu ymchwil o'r radd flaenaf, yn rheoli prosiectau mawr a ariannir gan Gyngor Ymchwil, ac yn hyrwyddo cydweithio rhwng ysgolheigion, gwneuthurwyr polisi a darparwyr diwylliannol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Callaghan ar gyfer Astudio Gwrthdaro, Grym ac Ymerodraeth, yr Athro Nikki Cooper: "Mae darlith Bryan Ward-Perkins yn ein hatgoffa nad yw'r cysylltiadau rhwng gwrthdaro, grym ac ymerodraeth yn ffenomen sy’n unigryw i’r oes fodern: Mae gan ei archwiliad o effeithiau sylweddol cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig oblygiadau i unrhyw un sy'n ystyried tynged ymerodraethau ar unrhyw adeg yn y gorffennol neu'r presennol. "

Mae’r ddarlith yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe ar ddydd Mercher, Mawrth 14eg. Bydd y ddarlith yn dechrau’n brydlon am 6pm yn Narlithfa Wallace, Adeilad Wallace. Bydd derbyniad gwin yn y cyntedd ar ôl y ddarlith. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at riah@swansea.ac.uk.

Mae croeso i bawb ac mae mynediad yn rhad ac am ddim.