Astudiaeth ar gyfer Dyfarniad Doethur neu Radd Meistr a ariannir yn llawn yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae gan Ganolfan y Graddedigion yn Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (RIAH) ym Mhrifysgol Abertawe saith ysgoloriaeth ymchwil a ariannir yn llawn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) ar gael ar gyfer 2012-13.

Bydd yr ysgoloriaethau ymchwil a gynigir yn caniatáu i ymgeiswyr llwyddiannus astudio mewn sawl modd, o Ddyfarniadau Doethur â chanolbwynt academaidd traddodiadol i Raddau Meistr Paratoi Proffesiynol sy'n darparu sgiliau a chymwyseddau y gellir eu defnyddio yn y gweithle.

Mae'r Radd Meistr Paratoi Proffesiynol mewn Ysgrifennu Creadigol yn Abertawe, er enghraifft, yn cynnig hyfforddiant integredig mewn ysgrifennu testunau llenyddol a'r cyfryngau ac fe'i haddysgir gan awduron ffuglen, ffeithiol, barddoniaeth a drama arobryn sy'n darparu hyfforddiant craidd a llwybrau unigol yn y prif ddulliau o ysgrifennu llenyddol a'r cyfryngau cyfoes.  

Mae rhagor o ddyfarniadau academaidd mwy traddodiadol ar gynnig hefyd fel y Dyfarniad Doethurol mewn Hanes a'r Meistr drwy Ymchwil mewn Hanes sy'n gwrs newydd sbon sy'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am wneud gradd ymchwil heb ymrwymo eu hunain i PhD.

Gall myfyrwyr ar y rhaglen hon astudio'n llawn-amser neu'n rhan-amser a chânt eu harholi drwy gyfrwng thesis 30,000 o eiriau.

Mae Cefndiroedd pwnc a ystyrir yn cynnwys: Hanes, Saesneg, Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd, Ieithoedd Modern, Ieithyddiaeth, Astudiaethau'r Cyfryngau, Cyfieithu, Astudiaethau Ffilm a Theledu, Ysgrifennu Creadigol ac unrhyw feysydd pwnc cytras perthnasol. Anogir ymgeiswyr i bori drwy wefannau Adrannol i archwilio testunau ymchwil posibl.

Mae'r ysgoloriaethau a gynigir yn cynnwys:

  • Dyfarniad Doethurol mewn Astudiaethau Celtaidd
  • Dyfarniad Doethurol mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu
  • Dyfarniad Doethurol mewn Hanes
  • Meistr drwy Ymchwil mewn Hanes
  • Gradd Meistr Paratoi Proffesiynol mewn Ysgrifennu Creadigol
  • Dwy Radd Meistr Paratoi Proffesiynol mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd.

Meddai Robert Rhys, Cyfarwyddwr y Ganolfan i Raddedigion: "Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan AHRC yn gwobrwyo nifer o fyfyrwyr ac mae'n cydnabod y Coleg - a'r Celfyddydau a'r Dyniaethau - fel maes hanfodol ar gyfer twf a buddsoddi.

"Mae'r Dyfarniadau a gynigir yn caniatáu i fyfyrwyr astudio naill ai ar lefel Meistr neu PhD, a chynigir rhai hyd yn oed ar sail ran-amser sy'n cynnig dewis mwy hyblyg i bobl sy'n dychwelyd i addysg. Ceir hefyd ddulliau newydd ac arloesol i astudiaethau ôl-raddedig megis y 'Radd Meistr Paratoi Proffesiynol' er enghraifft, sy'n darparu sgiliau ar gyfer y gweithle ac a fydd heb os yn helpu â chyfleoedd cyflogadwyedd ein graddedigion."

Dylai'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer un o'r saith ysgoloriaeth a ariannir yn llawn, wirio'r canllawiau cymhwyster a chwblhau ffurflen gais ar-lein ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu lawrlwytho pecyn ymgeisio ar bapur a'i gyflwyno erbyn Mehefin 29, 2012.