Astudiaeth newydd yn awgrymu bod plancton y cefnfor dan fwy o fygythiad gan asideiddio

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd o’r DU ac Awstralia’n awgrymu y gallai newidiadau yng nghemeg y môr, o ganlyniad i gynhesu byd-eang, greu bygythiad i organebau megis plancton morol ar raddfa fwy nag y tybiwyd o’r blaen.

Prof Kevin Flynn Mae’r gwaith, ar asideiddio’r môr a’r newidiadau y mae’n eu hachosi mewn lefelau pH ar arwyneb allanol plancton, yn cael ei arwain gan yr Athro Kevin Flynn o Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn y DU yn Labordy Morol Plymouth, y Gymdeithas Fiolegol Forol, Plymouth, a Phrifysgol Dundee, ac yn Awstralia ym Mhrifysgol Technoleg Sydney, a Phrifysgol Monash, Fictoria.

Meddai’r Athro Flynn, prif awdur y papur, sy’n cael ei gyhoeddi ar-lein gan y cyfnodolyn blaenllaw Nature Climate Change: “Mae effaith dyn ar yr amgylchedd yn golygu bod carbon deuocsid (CO2) yn toddi yn y môr, sydd yn naturiol yn alcaïaidd, ac mae hyn yn achosigostyngiad yn lefelau pH dwr y môr – cyfeirir at hyn fel asideiddio. 

“Mae rhagamcanion blaenorol yn awgrymu y bydd y lefel pH yn gostwng 0.3 uned o’i gwerth presennol erbyn 2100.  Mae’r newid hwn mewn lefel pH yn cyfateb i fwy na chynnydd dwbl mewn lefel asidedd, ond mae’n aneglur sut y mae twf plancton yn debygol o ymateb i’r cynnydd hwn mewn asideiddio.

“Fodd bynnag, o ystyried y rôl bwysig y mae’r organebau hyn yn ei chwarae yng nghylchoedd bio-geogemegol y Ddaear, ac er enghraifft fel ffynhonnell bwyd ar gyfer nifer o rywogaethau pysgod, mae’r effaith y bydd y newidiadau yng nghyfansoddiad cemegol dwr y môr a ddaw yn sgil asideiddio’r môr yn ei chael ar blancton yn achosi pryder mawr.”

Mae’r gwaith yn dangos bod dulliau arbrofol a ddefnyddiwyd yn y rhan fwyaf o astudiaethau blaenorol, megis siglo samplau, yn tarfu ar gasgliadau plancton naturiol ac felly’n effeithio ar lefelau pH wrth ymyl celloedd.

Meddai Dr Mark Baird, Uwch Gymrawd Ymchwil gyda’r Clwstwr Newid Hinsawdd (C3), Prifysgol Technoleg Sydney: “Mae modelau rhifiadol yn caniatáu i ni ynysu un ffenomen, megis sut y mae maint celloedd yn newid pa mor agored y mae plancton i asideiddio’r môr. Mae’n anodd gwneud hyn drwy ddefnyddio arbrofion labordy.”

Fodd bynnag, gan ddefnyddio efelychiadau, mae’r tîm wedi cyflwyno a thrafod mecanweithiau lle bydd plancton morol yn profi amgylchedd cryn dipyn yn fwy asidig nag yr awgrymir ar hyn o bryd gan senarios asideiddio’r môr – gan brofi cyflyrau pH sydd yn llwyr y tu allan i’w hystod hanesyddol ddiweddar.

Mae eu canlyniadau’n awgrymu wrth ddechrau gyda lefelau pH yn nwr y môr sy’n nodweddiadol o lefelau asideiddio’r môr yn y dyfodol, gallai newidiadau yn y pH ar arwyneb celloedd plancton gael effaith niweidiol ar homeostasis celloedd, gan arwain at dwf gwael os nad marwolaeth.

Yn bwysig, mae gwaith y tîm yn awgrymu y bydd rhai o’r organebau mwyaf pwysig i gylchoedd bio-geocemegol y Ddaear, megis calcheiddwyr planctonig (coccolithofforidau a fforamau), yn cael eu heffeithio’n eithafol gan y mecanwaith hwn.

Gallai’r newidiadau hyn gynrychioli grym pwerus, gan lunio cyfansoddiad cymunedau plancton y môr yn y dyfodol.

“Mae goblygiadau ein hymchwil yn fawr,” ychwanegodd yr Athro Flynn. “Maent yn awgrymu cwmpas ar gyfer effaith fwy difrifol o safbwynt asideiddio cefnforol ar blancton morol nag y tybiwyd o’r blaen.”

Mae’r camau nesaf yn yr ymchwil yn cynnwys archwiliad o effeithiau pH ar gyfnodau cynnar pysgod asgellog a physgod cregyn; cyfnodau sy’n ficrosgopig ac felly’n destun i’r un math o ddigwyddiadau a nodir ym mhapur y tîm.

“Rydym wrthi ar hyn o bryd yn arwain prosiect wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig  (Defra) ar effaith asideiddio’r môr ar bysgodfeydd masnachol, ynghyd â chydweithwyr ym mhrifysgolion Exeter a Strathclyde, a Labordy Morol Plymouth,” ychwanegodd yr Athro Flynn, sy’n Bennaeth Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe.

“Y cwestiwn yw a yw llwyddiant y cyfnodau cynnar hyn, sy’n agored iawn i newid yn yr hinsawdd, yn cael eu niweidio gan asideiddio’r môr."

Mae papur y tîm, Changes in pH at the exterior surface of plankton with ocean acidification, wedi’i gyhoeddi ar-lein gan y cyfnodolyn blaenllaw Nature Climate Change. Gellir darllen y papur llawn (tan 18 Gorffennaf, 2012) yn Changes in pH at the exterior surface of plankton with ocean acidification.


Cefnogwyd gwaith y tîm yn ariannol yn bennaf gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), gyda chymorth ychwanegol gan NERC Oceans 2025, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol, a’r Prosiect Ewropeaidd ar Asideiddio’r Môr.