Athro'r Gymraeg yn Traddodi ei Ddarlith Gyhoeddus Gyntaf ar Saunders Lewis ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Tudur Hallam, Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn traddodi darlith gyhoeddus ar 3 Mai ar y dramodydd Cymraeg, Saunders Lewis, yn Narlithfa Wallace yn y Brifysgol.

Dyma ddarlith agoriadol yr Athro Hallam ers iddo gael ei benodi'n Athro'r Gymraeg yn 2010, ac mae'n rhan o gyfres darlithoedd cyhoeddus 2010 Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Testun y ddarlith fydd dramâu Saunders Lewis, y dramodydd, bardd, awdur, a gwleidydd o Gymro.

Gan ystyried y testun yng nghyd-destun Theatr Genedlaethol Cymru, bydd y ddarlith yn trafod sut mae ei ddramâu'n wahanol i gynyrchiadau diweddar, e.e. Tyner yw’r Lleuad Heno a Sgint, gan ddadlau bod dramâu Saunders Lewis â gwell atyniad theatrig.

O edrych ar sylw enwog D’Aubignac, ‘Parler c’est agir’, bydd yr Athro Hallam yn ystyried sut y gall dramâu sy’n cynnwys llawer o eiriau fod yn llawn cynnwrf dramatig ac mor berthnasol ag erioed.

Ymunodd Tudur Hallam â Phrifysgol Abertawe ym 1999, ac fe'i penodwyd yn Athro'r Gymraeg yn 2010. Mae ei gyhoeddiadau diweddar yn cynnwys Canon Ein Llên, a enillodd Wobr Goffa Ellis Griffith yn 2009, a phennod ar farddoniaeth ddwyieithog yn Slanderous Tongues (Gwasg Seren: 2010).

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 am ei gerdd goffa i'r Athro Hywel Teifi Edwards. Mae'n gyd-olygydd, gyda Dr Angharad Price, y gyfres academaidd Ysgrifau Beirniadol.

Mae'r Athro Hallam yn aelod o Academi Hywel Teifi, a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am yr Athro Hywel Teifi Edwards, cyn Athro'r Gymraeg yn y Brifysgol.

Y mae tair elfen i waith Academi Hywel Teifi - mae'n ganolfan rhagoriaeth i astudio'r iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, mae'n hyrwyddo dysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws yr ystod o bynciau a gynigir gan y Brifysgol, ac mae'n gartref i'r ganolfan Cymraeg i Oedolion.

Dywedodd yr Athro Chris Williams, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, "Roedd Saunders Lewis yn un o'r bobl fwyaf dylanwadol a dadleuol yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Bu'n sylfaenydd cenedlaetholdeb Cymreig modern, yn ysbrydoliaeth i fudiad yr iaith Gymraeg, ac yn llenor arwyddocaol ei hunan. Mae agwedd unigolyn tuag at ei syniadaeth yn aml yn diffinio'r unigolyn. Mae'n sicr y bydd Tudur Hallam wedi ystyried ei eiriau'n ofalus, ac y byddant yn ysgogi'r meddwl."

Traddodir y ddarlith yn Narlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe, a bydd yn cychwyn yn brydlon am 6.00yh. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael cyn y ddarlith, o 5.15yh ymlaen; mae croeso i bawb, ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Traddodir y ddarlith yn Gymraeg, a bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Sefydliad, trwy e-bost ar riah@abertawe.ac.uk, neu trwy ffonio 01792 295190.