Caffe Gwyddoniaeth Abertawe mis Mawrth: Gastronomeg Foleciwlaidd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffe Gwyddoniaeth Abertawe'n cynnig cyfle i chi ddarganfod mwy am feysydd gwyddoniaeth newydd, cyffrous, a chyfredol. Gyda'r bwriad o fod yn anffurfiol ac yn ddiddan, cynhelir y caffe fel arfer ar ddydd Mercher olaf bob mis yng Nghanolfan Dylan Thomas. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae'r darlithoedd yn dechrau am 7.30pm.

Teitl: Gastronomeg Foleciwlaidd, gwyddoniaeth blas a chyflas

Siaradwr: Yr Athro Peter Barham, Prifysgol Bryste

Dyddiad: Mercher 21ain Mawrth 2012

Amser: 7.30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad: Yn rhad ac am ddim, croeso i bawb


 

Crynodeb o'r digwyddiad

Yn narlith y mis hwn, bydd yr Athro Barham yn ceisio ateb cwestiynau megis "Beth sy'n rhoi blas i fwyd?" "Beth sy'n gwneud i rai bwydydd flasu'n dda iawn, tra gall bwydydd eraill fod yn ddi-flas neu hyd yn oed yn atgas?"

Trwy ddangos cyfres o enghreifftiau, bydd yn trafod pa mor bell y gall gwyddoniaeth fynd o ran ateb y cwestiynau hyn a chwestiynau eraill sydd mor bwysig i gogyddion domestig a phroffesiynol fel ei gilydd.

Byddwch yn darganfod ein bod yn defnyddio'n holl synhwyrau i asesu'r bwyd yr ydym yn ei fwyta:

  •     defnyddiwn ein llygaid i weld y lliw, y siâp a'r maint
  •     ein clustiau i glywed unrhyw hisian neu glecian
  •     ein dwylo i deimlo'r ansawdd
  •     ein tafodau i deimlo'r blas
  •     ein trwynau i asesu'r arogl
  •     a'r holl nerfau yn ein cegau i asesu'r teimlad yn y geg

Mewn gwirionedd, mae'r holl synwyriadau hyn yn cael eu hintegreiddio i'r hyn a elwir yn "cyflas"; wedyn, mae'r sawl sy'n bwyta'n penderfynu a yw'n hoffi'r bwyd ai peidio.

Bydd yr Athro Barham hefyd yn dangos sut mae cydweithio rhwng gwyddonwyr a chogyddion yn agor bydoedd newydd o gyfuniadau bwyd a blas newydd a blasus.

Postiwyd yr eitem newyddion hon ar gyfer Caffe Gwyddoniaeth Abertawe gan Katy Drane, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050, neu e-bost: k.drane@abertawe.ac.uk