Canolfannau Cymraeg: Y Cam Nesaf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ddydd Sadwrn, 15 Medi 2012, cynhelir cyfarfod arbennig i drafod sefydlu mwy o Ganolfannau Cymraeg led led Cymru yng Nghanolfan Gymraeg Abertawe, Tŷ Tawe.

Bydd y cyfarfod, sydd wedi’i drefnu gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru, Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn cael ei gynnal rhwng 10:30-15:30.

Bwriad y cyfarfod yw trafod y galw am sefydlu mwy o Ganolfannau Cymraeg yn ardaloedd cymharol ddi-Gymraeg Cymru yn sgîl adroddiad ymchwil a lansiwyd yn y Senedd dros yr haf.

Roedd ‘Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg’ yn ffrwyth gwaith ymchwil ar y cyd gan Heini Gruffudd a Steve Morris ar ran Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru.

Prif neges yr adroddiad oedd y dylid mynd ati i sefydlu Canolfannau Cymraeg ar draws ardaloedd cymharol ddi-Gymraeg Cymru fyddai’n rhoi cyfle i oedolion sy'n dysgu ac wedi dysgu'r Gymraeg gymdeithasu gyda siaradwyr Cymraeg eraill y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Nod y cyfarfod fydd rhoi cyfle i bawb rannu syniadau a cheisio sicrhau bod yr ymgyrch i greu mwy o Ganolfannau Cymraeg yn flaenllaw ar yr agenda ieithyddol heb anghofio ysgogi eraill i sefydlu mwy o Ganolfannau Cymraeg.

Bydd un sesiwn yn sôn am y Canolfannau Cymraeg sydd eisoes mewn bodolaeth; Tŷ Tawe, Popeth Cymraeg a Chanolfan Merthyr ond bydd cyfle hefyd i glywed am y rhai sydd wrthi’n cael eu sefydlu ar hyn o bryd, gan gynnwys un yn Y Barri a’r llall yn Llanelli. Daw’r cyfarfod i ben gyda thrafodaeth agored ynglŷn â’r ffordd ymlaen.

Meddai Aled Davies, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru fydd yn cadeirio’r sesiynau: “Mae cyfraniad dysgwyr y Gymraeg yn allweddol i unrhyw ymdrechion i gynnal a chynyddu defnydd o’r iaith. Dangosodd yr ymchwil yn glir bod Canolfannau Cymraeg yn helpu dysgwyr i ganfod cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith a chyfrannu tuag fywyd Cymraeg yr ardal. Trwy’r cyfarfod arbennig hwn, ein gobaith yw y gallwn gefnogi ymdrechion y rhai sy’n cynnal ac yn datblygu Canolfannau Cymraeg ar hyn o bryd ac ysgogi datblygiadau pellach mewn ardaloedd eraill.”