Cipolwg ar Gynhadledd Cyfrwng

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Prifysgol Abertawe fydd yn llwyfannu cynhadledd Cyfrwng eleni a hynny rhwng 12-13 Gorffennaf 2012.

Cyfrwng yw Cynhadledd Gyfryngau fwyaf Cymru a’i bwriad yw annog trafodaeth feirniadol a chraff ar y cyfryngau yng Nghymru ynghyd â phontio’r bwlch rhwng y diwydiant cyfryngau a’r byd addysg uwch yng Nghymru.

Thema’r gynhadledd eleni fydd y berthynas rhwng llenyddiaeth â’r cyfryngau mewn cenhedloedd bychain. Yn ystod y gynhadledd, ceir arlwy o gyflwyniadau, gweithdai a phaneli bywiog yn trafod pynciau llosg yn gysylltiedig â’r thema.

Ymhlith uchafbwyntiau’r gynhadledd eleni fydd darlith Goffa Dave Berry, fydd yn trafod ‘Animeiddio Llenyddiaeth’ yng nghwmni Chris Grace, cyn-Gyfarwyddwr Animeiddio S4C a Naomi Jones, Cynhyrchydd Mabinogi.

Uchafbwynt arall fydd trafodaeth ar sut y mae un o ddramâu mwyaf llwyddiannus y blynyddoedd diweddar, Llwyth gan Dafydd James, yn cael ei haddasu i’r sgrîn fach a hynny trwy gyfrwng sgwrs rhwng Ed Thomas, Dafydd James a Rhodri Davies.

Prif uchafbwynt y gynhadledd fydd cyflwyno Gwobr Cyfrwng i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i hyrwyddo’r cyfryngau torfol yng Nghymru. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno mewn cinio yng Ngwesty Morgans, Abertawe ar nos Iau 12 Gorffennaf 2012 am 7.30 yr hwyr, ac fe ryddheir enw’r unigolyn hwnnw maes o law.

I gael rhaglen lawn neu ragor o wybodaeth am y gynhadledd, ewch i www.cyfrwng.com neu cysylltwch â Dr Elain Price, drwy ffonio: 01792 602807 neu yrru e-bost at: e.price@abertawe.ac.uk