Cyfleoedd gwych ar gael ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae gan Brifysgol Abertawe lefydd ar gael i fyfyrwyr ar draws ystod eang o bynciau trwy gyfrwng Clirio.

Oherwydd y newidiadau ym mhatrwm ceisiadau prifysgol a chanlyniadau Lefel A, mae gan Abertawe fwy o lefydd na’r arfer ar gael ac yn awyddus i glywed gan fyfyrwyr nad ydynt wedi dod o hyd i le eto, neu sydd heb benderfynu’n derfynol pa brifysgol i’w mynychu.

Meddai’r Diprwy Is-Ganghellor, yr Athro Alan Speight sy’n gyfrifol am brofiad myfyrwyr:

‘‘Caiff Prifysgol Abertawe ei hystyried yn fan arbennig i astudio, ac mae myfyrwyr sy’n dewis astudio yma yn rhan o sefydliad uchelgeisiol sydd â safon dysgu o’r radd flaenaf. Mae Abertawe yn ddinas fyrlymus, llawn diwylliant sydd â chyfleusterau chwaraeon penigamp heb anghofio cefn gwlad â thraeth godidog ger llaw.

Bydd rhai myfyrwyr yn ogystal â’u hathrawon a’u tiwtoriaid yn siomedig â’u canlyniadau ac yn teimlo’n rhwystredig nad ydynt wedi llwyddo i sicrhau lle mewn prifysgol. Ond yn y flwyddyn anarferol hon, mae modd cael eich derbyn i brifysgol gyda graddau is na’r gorffennol, wedi’r adroddiadau sy’n dweud bod graddau is yn dderbyniol mewn prifysgolion ar draws Prydain.

Dylai myfyrwyr sydd wedi bod yn aflwyddiannus hyd yma beidio â digalonni ond achub ar y cyfle prin yma i sicrhau lle trwy’r system Glirio.

Mae gennym ysgoloriaethau hyd at £3,000 ar gael i fyfyrwyr newydd sydd â graddau uchel a hyd at £4,500 i fyfyrwyr o deuluoedd isel eu hincwm. Mae’r rhain yn ysgoloriaethau ariannol, fydd yn cael eu rhoi i fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau. Byddwn hefyd yn gallu cynnig cadarnhad llety i’r myfyrwyr gorau y byddwn yn eu derbyn trwy Glirio ac Addasu.

Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan fyfyrwyr sydd wedi derbyn graddau uwch na’r disgwyl ac sy’n dymuno defnyddio’u cyfle ‘Addasu’ trwy UCAS i ddod i Abertawe yn hytrach na’u dewis gwreiddiol.’’

Mae gan Brifysgol Abertawe lefydd Clirio penodol ar gael mewn ystod eang o bynciau gan gynnwys Busnes, Economeg, Y Gyfraith, Troseddeg, Seicoleg, Geneteg, Saesneg, Hanes, Gwleidyddiaeth, Clasuron, Cyfryngau, Cyfieithu, Astudiaethau Americanaidd ac Ieithoedd Modern (Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg); yn ogystal â’n cynllun Blwyddyn Gwyddoniaeth Sylfaen, sy’n cynnig llwybr uniongyrchol i raddau llawn ym meysydd Bioleg, Cyfrifiadureg, Ffiseg, Daearyddiaeth a Mathemateg.

Bydd ein llinell gyswllt Clirio (ac i’r myfyrwyr hynny sydd eisoes wedi derbyn cynnig gennym), 0800 094 9071 ar agor rhwng 7yb i 7yh Llun – Gwener yr wythnos hon.

Gellir dod o hyd i fwy o fanylion ar ein gwefan www.abertawe.ac.uk