Darlith Gyhoeddus – Wyneb Newidiol Sefydliadau Addysg Uwch: Rhai Safbwyntiau Rhyngwladol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ystod y ddarlith hon, a drefnir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, bydd yr Athro John Davies, Athro Emeritws, Prifysgol Anglia Ruskin ac Athro Gwadd, y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Rheoli Addysg Uwch, yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd y mae Prifysgolion yn eu hwynebu ar draws y byd heddiw.

Teitl: ‘Wyneb Newidiol Sefydliadau Addysg Uwch: Rhai Safbwyntiau Rhyngwladol’

Siaradwr: yr Athro John Davies, Athro Emeritws, Prifysgol Anglia Ruskin ac Athro Gwadd, y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Rheoli Addysg Uwch

Bydd Is-lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Athro M Wynn Thomas OBE FBA FLSW, yn y gadair.


Dyddiad: Dydd Mawrth 23ain Hydref 2012

Amser: 6.30pm – 7.45pm

Lleoliad: Darlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb


Crynodeb o’r digwyddiad:  Bu John L Davies, Dirprwy Is-ganghellor Emeritws ac Athro mewn Rheoli Addysg Uwch ym Mhrifysgol Anglia Ruskin, gynt yn Ddeon Ysgol Graddedigion Prifysgol Polytechnig Anglia ac mae ar hyn o bryd yn Athro Gwadd mewn Rheoli Addysg Uwch yn y Ganolfan ar gyfer Rheoli Addysg Uwch ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Bu’n un o’r sylwebwyr blaenllaw ym maes addysg uwch Ewropeaidd ers 1970 (fel Prif Ymgynghorydd gydag OECD, y Gynhadledd Rheithoriaid Ewropeaidd, a bu’n ymgynghorydd i UNESCO, Sefydliad Soros, Banc y Byd, y Comisiwn  Ewropeaidd ac i 30 asiantaeth lywodraethol ar gyfer addysg uwch, ac i oddeutu 75 o brifysgolion ar draws y byd).

Bu’n weithgar yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wrth sefydlu rheoli addysg uwch fel maes astudio mewn prifysgolion yn y DU ac yn Ewrop.