Darlithydd Gwyddor Iechyd o Brifysgol Abertawe yn derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol glodfawr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Jane Thomas, Darlithydd Gwyddor Iechyd a Phennaeth Dros Dro Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, wedi ennill Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol glodfawr o'r Academi Addysg Uwch. Bu cryn gystadlu am y gymrodoriaeth hon.

Rhoddir y Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgwyr addysg uwch, ac mae cystadlu brwd amdanynt. Dewiswyd Jane o blith 180 o enwebiadau ar draws Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon.

Mae Jane yn nyrs gymwysedig, yn fydwraig gymwysedig ac yn ymwelydd iechyd cymwysedig gydag ystod eang o brofiad gwasanaeth proffesiynol cyn iddi ddechrau addysgu. Mae ei gyrfa addysgu bellach yn ymestyn dros 25 mlynedd.  Ers ymuno â’r Ysgol Iechyd fel darlithydd gofal cymunedol bu ganddi nifer o rolau gan gynnwys addysgu ymarfer yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, rheoli ymarfer ar gyfer nyrsio oedolion, a Chyfarwyddwr Ansawdd. Yn y rôl honno, roedd Jane yn goruchwylio asesu, derbyniadau a lleoliadau ac yn cadeirio’r pwyllgorau addysgu a dysgu, ansawdd cwricwlwm a derbyniadau. Yn ei rôl uwch bresennol, mae Jane yn rheoli’r gorchwyl dysgu ac addysgu, gan gynnwys staff a rhaglenni.   

Mae Jane yn ymwneud â’r agenda sefydliadol mewn nifer o ffyrdd, sy’n ei galluogi i rannu ac elwa ar arferion gorau. Mae hi’n ymrwymedig i ymarfer addysgeg o’r strategaeth i ddarparu, gan ddatblygu myfyrwyr ac athrawon i’w potensial llawn. Mae’n dal i addysgu myfyrwyr ôl-raddedig, sy’n ei galluogi i aros yn agos at brofiad y myfyrwyr fel ymarferydd, yn ogystal â rheoli ystod o raglenni. Mae ei rôl reoli yn cynnwys cyfarwyddo strategaeth academaidd yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar hyn o bryd Jane yw Uwch-arolygydd Asesu Prifysgol Abertawe hefyd, gan oruchwylio achosion arfer annheg o lefel adrannol a cholegol i baneli archwilio yn y Brifysgol. Yn ddiweddar arweiniodd gynnig llwyddiannus i sicrhau cyllid allanol ar gyfer datblygu adnodd electronig i hyrwyddo uniondeb academaidd ymhlith y boblogaeth fyfyrwyr. Mae hi’n arwain y gweithgor arfer annheg, gan symud yr agenda uniondeb academaidd yn ei blaen yn y sefydliad.

Gyda chefndir academaidd mewn iechyd cyhoeddus, mae Jane yn aseswr iechyd cyhoeddus gyda Chofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig (UKPHR). Mae hi’n arwain rhaglen ôl-raddedig mewn iechyd cyhoeddus ac yn darparu addysg bwrpasol i’r sector. Bu’n defnyddio dysgu drwy leoliad ar lefel ôl-raddedig ers llawer o flynyddoedd ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn asesu ar sail cyflogadwyedd. 

Jane Thomas

Mae Jane yn dweud ei bod wedi mwynhau “gyrfa liwgar a heriol yn gweithio ar draws yr ystod academaidd, gydag athrawon talentog, aseswyr arloesol a myfyrwyr sy’n ysbrydoli ac yn cyfranogi.” Mae Jane yn credu’n gryf mai rhywbeth i bawb yw dysgu gydol oes, nid dim ond i fyfyrwyr. Mae’n disgrifio’r Wobr NTFS fel “anrhydedd llwyr fel cydnabyddiaeth a pharch cyfoedion mewn addysg uwch. Bydd y Wobr yn fy ngalluogi i wneud rhai datblygiadau arloesol a chreadigol a fydd nid yn unig o fudd i mi, ond hefyd o fudd i’m cydweithwyr a’m sefydliad”. Ar hyn o bryd mae ei chynlluniau’n cynnwys datblygu adnodd i gefnogi datblygiad athrawon ac archwilio dulliau asesu amgen.

Dywedodd yr Athro Alan Speight, Dirprwy Is-ganghellor (Profiad Myfyrwyr): "Rydym yn llongyfarch Jane ar y cyflawniad rhagorol hwn, ac ar dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei chyfraniad neilltuol tuag at ddysgu ac addysgu, nid yn unig yn y Brifysgol, ond hefyd yn y gymuned ehangach."