Degawd cynhyrchiol i ymchwilydd Systemau Gwybodaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae uwch-ddarlithydd mewn Systemau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i enwi fel un o'r awduron a gyhoeddwyd fwyaf aml yn ei faes dros y degawd diwethaf.

Yogesh Dwivedi Mae Dr Yogesh Dwivedi, o'r Ysgol Busnes ac Economeg, wedi'i restru'n 13eg ar restr o'r 30 awdur mwyaf cynhyrchiol, a gyhoeddwyd mewn papur ar gyfer y Gynhadledd Ewropeaidd ar Systemau Gwybodaeth (ECIS) freintiedig.

Cafodd y papur, o'r enw ‘An Anatomy of European Information Systems Research: The First 20 Years of the European Conference on Information Systems’, ei ysgrifennu ar y cyd gyda'r Athro Robert D Galliers a'r myfyriwr PhD Mari-Klara Oja, o Brifysgol Bentley, UDA a Dr Edgar A Whitley o Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain.

Cafodd ei gyhoeddi yn nigwyddiad ECIS eleni, a gynhaliwyd yn Barcelona, Sbaen, i nodi pen-blwydd y gynhadledd yn 20 oed.

Er bod 295 o bapurau wedi'u cyhoeddi ar y testun Systemau Gwybodaeth gan academyddion o'r DU yn y 10 mlynedd ddiwethaf, dim ond pum ymchwilydd sydd wedi cyhoeddi digon o bapurau i sicrhau bod ei (h)enw wedi’i gynnwys ar y rhestr.

Meddai Dr Dwivedi, sydd wedi cyhoeddi dros 13 o bapurau ymchwil dros y degawd diwethaf: "Rydw i wedi fy synnu ac yn falch o gael fy nghydnabod yn y modd hwn mewn cynhadledd mor freintiedig gan gymheiriaid ac arbenigwyr blaenllaw ym maes Systemau Gwybodaeth, wrth i'r gynhadledd ddathlu 20 o flynyddoedd. Mae cael fy rhestru wrth ochr academyddion hyn o ar draws y byd yn anrhydedd gwirioneddol.   

"Mae'r ymchwil yr wyf wedi'i harchwilio a'i chyhoeddi dros y degawd diwethaf wedi canolbwyntio ar fabwysiadu, a defnyddio ac effaith technoleg gwybodaeth a chyfathrebu - megis broadband, llywodraethu electronig, masnach electronig, systemau menter, y cyfryngau cymdeithasol - gan ddinasyddion, defnyddwyr, a sefydliadau.

"Mae fy ymchwil bresennol yn parhau i ganolbwyntio ar archwilio sut y mae defnyddwyr, sefydliadau, a chymdeithas yn defnyddio TGCh gan gynnwys Adnabod Amledd Radio, Technolegau Symudol a Chyfryngau Cymdeithasol, at wahanol ddibenion megis darparu addysg, masnach electronig, busnes electronig a gwasanaethau llywodraeth electronig.

"Ymhellach, mae sut y gall defnyddio TGCh effeithio ar strwythur a pherfformiad presennol sefydliadau a chymdeithas hefyd yn ardal o ddiddordeb ymchwil ar gyfer y dyfodol."

Am ragor o wybodaeth ar Goleg Busnes ac Economeg Prifysgol Abertawe ewch i http://www.swansea.ac.uk/business/.