Dyfodol y Llyfrgell a’r Oes Ddigidol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Syr Deian Hopkin yn traddodi darlith Sefydliad Bevan eleni. Bydd yn dadansoddi sut mae technoleg wedi chwyldroi’r gallu i gael gafael ar wybodaeth ac yn cwestiynu a ydi hi’n bryd i’r llyfrgell newid a datblygu i fod yn sefydliad o fath gwahanol.

DeianHopkin

 

 

 

 

 

 

 

Siaradwr: Syr Deian Hopkin

Teitl y Ddarlith: Dyfodol y Llyfrgell a’r Oes Ddigidol

Dyddiad: Gwener 12fed Hydref

Amser: 7yh

Lleoliad: Llyfrgell Glowyr De Cymru, Sgeti, Abertawe SA2 7NB

Mynediad: Am ddim a chroeso i bawb

Arall: Diodydd am 6.30yh

Crynodeb o’r ddarlith:

Mae technoleg wedi gweddnewid y modd y caiff gwybodaeth ei lledaenu ond beth mae hyn yn golygu i sefydliadau traddodiadol fel llyfrgelloedd? Tra mae’r llyfrgell yn rhad ac am ddim ac yn cynnig profiad dysgu gwerthfawr, mae’r we yn araf ddatblygu i fod yn gyfrwng cynhyrchu incwm sy’n dibynnu ar ffynonellau ariannol. Er bod ceisio goresgyn y rhaniad digidol yn angenrheidiol, onid yw hyn yn tanseilio’r achos i gynnal a chadw’r llyfrgell fel y mae? Neu a ydyw’n bryd i’r llyfrgell newid a datblygu i fod yn sefydliad o fath gwahanol.

Gwybodaeth am y siaradwr:

Syr Deian Hopkin yw Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn gynghorydd arbenigol i Brif Weinidog Cymru ar weithgareddau i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.  Fe’i ganwyd yn Llanelli a derbyniodd ei addysg yn Llanymddyfri ac Aberystwyth. Treuliodd llawer o’i yrfa ym maes addysg uwch, gan gynnwys pedair blynedd ar hugain fel pennaeth Adran Hanes Prifysgol Aberystwyth. Rhwng 2001-9, bu’n Is-ganghellor Prifysgol South Bank Llundain yn ogystal ag Is-ganghellor Prifysgol Ddwyrain Llundain dros dro rhwng 2010-2011 wedi cyfnod fel Cadeirydd Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Mae’n aelod o’r Comisiwn Addysg Uwch ac ar fwrdd Prifysgol Essex. Mae’n cadeirio Uned Bolisi’r Economi Leol ac yn Is Gadeirio Cyngor Cynorthwyo Ffoaduriaid Academaidd. Mae hefyd ar fwrdd nifer o gyrff gan gynnwys yr Ymgyrch dros Addysg, Sefydliad Ymchwil Hanesyddol a Choleg Hillcroft i Ferched. Yn ychwanegol, mae’n aelod o Fwrdd Golygu Ymgynghorol Times Higher Education.

Cyswllt:

I archebu lle ffoniwch 0845 180 0441 / 07789711659.

Noder y bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi trwy gyfrwng y Saesneg.