Grant i helpu lleihau profi ar anifeiliaid mewn ymchwil canser

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm yn Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant i ddatblygu dulliau profi newydd yn seiliedig ar gelloedd bodau dynol, a fydd yn lleihau’r angen i brofi cemegion sy’n achosi canser ar anifeiliaid yn sylweddol yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae’r Athro Gareth Jenkins a’i dîm wedi derbyn grant o £400,000 gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Disodli, Mireinio a Lleihau Profi ar Anifeiliaid mewn Ymchwil (NC3Rs) i ddod o hyd i ddulliau o asesu peryg o ganser sy’n gyflymach, yn fwy effeithlon ac sydd â llai o ddibyniaeth ar anifeiliaid.

Ar hyn o bryd, mae profi cemegion a ddefnyddir yn y diwydiannau fferyllol, agrocemegol, a nwyddau traul am eu potensial i achosi canser (profi carsinogenigrwydd) yn defnyddio nifer fawr o anifeiliaid, ac maent yn gostus ac yn cymryd llawer o amser. Ymhellach, mae’r newid diweddaraf i Gyfarwyddeb Cosmetigau’r UE yn gwahardd profi cynhwysion cosmetig ar anifeiliaid yn gyfan gwbl.

Mae’r Athro Jenkins yn bwriadu astudio sut y mae cemegion yn torri ar draws y mecanweithiau y mae celloedd yn eu defnyddio i gyfathrebu â’i gilydd, a chyfuno hyn a data cyfredol i ddarparu rhagfynegiadau gwell ynghylch pa gemegion sy’n garsinogenau potensial.

Mae’r astudiaeth, sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth â’r cewri diagnosteg a fferyllol Roche a GE Healthcare, hefyd yn ystyried sut y gellir allosod dosiau o gemegion niweidiol sy’n achosi effeithiau in vitro i ddosiau sy’n debygol o achosi effeithiau in vivo mewn bodau dynol.

Wrth sôn am y dyfarniad, meddai’r Athro Jenkins, “Mae’r grant hwn yn ategu’r gwaith ar strategaethau disodli anifeiliaid sydd eisoes ar waith o fewn y grwp yr wyf yn eu harwain yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd, gan gynnwys Cymrodoriaeth Arweinydd Ymchwil MRC sy’n edrych ar fodelau meinwe 3D ac ysgoloriaeth ymchwil PhD a ddyfarnwyd gan NC3Rs yn 2010. 

“Gyda’i gilydd, bydd yr ymdrechion hyn yn helpu i ddylunio strategaethau profi gwell i asesu carsinogenigrwydd heb orfod defnyddio anifeiliaid, gan osgoi peryglu bodau dynol i gemegion niweidiol ar yr un pryd.”

Ychwanegodd Dr Vicky Robinson, Prif Weithredwr NC3Rs, “Bob blwyddyn mae rhaglen grantiau strategol NC3Rs yn canolbwyntio ar faes o ymchwil fiolegol lle bo agen dirfawr i wthio un agwedd o Ddisodli, Mireinio neu Leihau defnyddio anifeiliaid ymlaen. Mae profi carsinogenigrwydd yn defnyddio llawer iawn o anifeiliaid ac ar hyn o bryd yn dibynnu ar fethodoleg aneffeithlon a chostus; bydd ein grantiau i’r Athro Newbold a’r Athro Jenkins yn darparu profion a fydd o fudd i anifeiliaid yn ogystal â’r diwydiannau sy’n eu defnyddio.”

Meddai Dr Elmar Gocke, Pennaeth Grwp Genotocsicoleg, Diogelwch Anghlinigol, F Hoffmann-La Roche, sy’n cydweithio â Gareth Jenkins, “Yn y diwydiant fferyllol, mae gan brofi gwenwyn genetig rôl bwysig yn y gwaith o ddod o hyd i strwythurau cemegol a all niweidio defnydd genetig. Mae canlyniadau profion yn hanfodol bwysig wrth bennu’r perthnasedd o ran perygl i fodau dynol. Fodd bynnag, gall gasglu cyfres o ganlyniadau in vitro neu in vivo dryslyd, rwystro cynnydd yn y broses o ddyfeisio triniaethau newydd yn hytrach na’i helpu. Bydd ein gwaith gyda’r Athro Jenkins yn cyfrannu at ddealltwriaeth well o’r prosesau carsinogenetig ac yn arwain at asesiadau risg fwy argyhoeddiadol”.

Defnyddir profion ar gelloedd a feithrinwyd yn y labordy i ddatgelu potensial cemegyn i niweidio DNA a/neu achosi mwtaniad ar hyn o bryd mewn strategaethau profi carsinogenigrwydd rheoleiddiol, ond mae cyfyngiadau iddynt fel profion a gynhelir ar eu pennau eu hunain. Mae ganddynt gyfradd uchel o ganlyniadau positif camarweiniol lle y dosbarthir cemegion nad ydynt yn niweidio DNA in vitro yn anghywir fel carsinogenau posibl. Mae’n rhaid cynnal arbrofion ar anifeiliaid felly i gadarnhau’r canlyniadau. Nid yw’r profion hyn chwaith yn canfod cemegion sy’n achosi canser mewn ffyrdd arall nad ydynt yn niweidio DNA.