Gweinidog Iechyd yn agor Labordai Ymchwil Gwybodeg GIG Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Lesley Griffiths yn ymweld รข Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe heddiw (dydd Llun, Ebrill 23), i agor ail gyfnod Labordai Ymchwil Gwybodeg GIG Cymru.

Mae’r Labordai Ymchwil, sy’n canolbwyntio ar werthuso, ymchwil ac arloesi, wedi’u rhedeg ar y cyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a’r Grwp Ymchwil Gwybodeg Iechyd o Goleg Meddygaeth y Brifysgol. Mae’r Labordai Ymchwil yn cefnogi buddion cleifion gwirioneddol i’r GIG yng Nghymru a thu hwnt drwy ddarparu mentergarwch mewn TG gofal iechyd, yn canolbwyntio ar y claf.

Mae’r cyfleusterau wedi’u dylunio i greu “GIG mewn labordy” – cyfleuster ymchwil diogel a hygyrch i astudio taith y claf drwy’r GIG, gan integreiddio systemau TG newydd â systemau TG sydd eisoes yn bodoli yn y GIG.  

Agorwyd cyfnod cyntaf y Labordai Ymchwil ym mis Mehefin 2008, ac mae wedi helpu gwella economi Cymru drwy greu economi cynaliadwy yn seiliedig ar wybodaeth ym maes gwybodeg iechyd drwy ei ganolfan bartner, y Ganolfan Arloesi Diwydiannau eIechyd (ehi2).

Yn ystod ei hymweliad i agor ail gyfnod y datblygiad, mi wnaeth yr Is-ganghellor yr Athro Richard B Davies groesawu’r Gweinidog ac yna ei thywys o gwmpas cyfleusterau’r Labordai Ymchwil.

Derbyniodd y Gweinidog wybodaeth gyffredinol gan yr Athro Gareth Morgan, Pennaeth y Coleg Meddygaeth, ar ymchwil yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd; David Ford, Cyfarwyddwr Gwybodeg Iechyd yn y Coleg Meddygaeth; ac Andrew Griffiths, Cyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gwybodaeth Iechyd Gwasanaeth Gwybodeg Iechyd GIG Cymru, ar ddyfodol Labordai Ymchwil Gwybodeg GIG Cymru.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd: “Mae gan y labordai rôl amlswyddogaeth. Maent yn profi technolegau newydd ar gyfer GIG Cymru, ac yn gweithredu fel magwrfa ar gyfer arloesi, gan greu cydweithrediadau gyda diwydiannau lleol a chenedlaethol, a chreu economi gadarn ym maes e-Iechyd.

“Diolch i’r Rhaglen Hysbysu Gofal Iechyd, a’r gefnogaeth a gafodd honno gan y Labordai, rydym wedi dechrau newid tirlun technoleg gofal iechyd, a’i gwneud yn haws i’n meddygon a’n nyrsys ddarparu’r gofal gorau i gleifion.

“Mae hyn yn dangos sut mae modd sicrhau llwyddiannau mawr pan fo iechyd, academia, diwydiant a llywodraeth yn cydweithio.”

Meddai’r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae’n bleser gennym groesawu’r Gweinidog i agor y Labordai Ymchwil estynedig, wedi eu hadleoli i adeilad cyfnod dau ein Sefydliad Gwyddor Bywyd.

“Mae’r digwyddiad hwn yn dathlu llwyddiant y cyfleuster gwreiddiol – y cyntaf o’i fath yn Ewrop pan gafodd ei agor yn 2008 ac mae’n nodi dechrau cam nesaf y datblygiad cyffrous hwn a fydd yn darparu’r cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd eu hangen i gefnogi portffolio aml-brosiect sy’n tyfu, wedi’i seilio ar ymchwil ac arloesi.

“Bydd hyn yn cryfhau partneriaethau’r Brifysgol â’r GIG yng Nghymru a chyda byd diwydiant, gan sicrhau economi cynaliadwy yn seiliedig ar wybodaeth â chanolbwynt ar eiechyd.”

Opening of ILS2 informatics research laboratories

Andrew Griffiths Cyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gwybodaeth Iechyd Gwasanaeth Gwybodeg Iechyd GIG Cymru, Gwyn Thomas Prif Weithredwr Gwasanaeth Gwybodeg Iechyd GIG Cymru, David Ford Cyfarwyddwr Labordai Ymchwil Gwybodeg Iechyd GIG Cymru, Lesley Griffiths Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gareth Morgan Pennaeth Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Richard Davies