Gwobr Nodedig am Astudiaeth Gweithgarwch Corfforol Plant

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr am ei hastudiaeth i effaith bositif gweithgarwch corfforol ar iechyd hirdymor plant ym Mwrdeistref Wigan.

Enillodd Dr Kelly Mackintosh y wobr gyntaf ar gyfer Archwilwyr Ifanc yn y Gynhadledd Wyddonol cyn y Gemau Olympaidd ar gyfer Chwaraeon a’r Gwyddorau Ymarfer Corff yn Glasgow am gyflwyniad ei phrosiect o’r enw Influences on Children's Weekday and Weekend Day Physical Activity: The CHANGE! (Children’s Health, Activity and Nutrition: Get Educated!) Project.

CHANGE-project

Bu Dr Mackintosh, o’r Ganolfan Ymchwil Meddygaeth Technoleg Chwaraeon Gymhwysol, yn gweithio ar y prosiect CHANGE! mewn partneriaeth â thîm o academyddion dan arweiniad yr Athro Stuart Fairclough o Brifysgol Lerpwl John Moores a Helen Roberts ac Alexandra Jones o’r tîm Fit4Fun yng Nghyngor Wigan.

Meddai Gareth Stratton, Athro mewn Gwyddor Ymarfer Corff Pediatrig ym Mhrifysgol Abertawe: “Roeddwn i wrth fy modd bod Dr Mackintosh, aelod staff sydd newydd ei phenodi, wedi ennill y wobr gyntaf ynghyd â’i chydweithwyr. Derbyniodd astudiaeth Dr Mackintosh ddiddordeb sylweddol ac mae’n adlewyrchu ardal o waith yr ydym yn awyddus i’w hastudio yn Abertawe.”

Bu’r CHANGE! yn canolbwyntio yn y man cyntaf ar Fwrdeistref Wigan sydd â phoblogaeth o oddeutu 307,000 ac sy’n ‘ardal Flaengyrch’ sy’n golygu ei bod yn uwch na chyfartaledd y DU o ran amddifadrwydd mewn cymunedau, diagnosisau diabetes math dau a marwolaethau cynnar o achos clefyd y galon, strôc a chanser. Mae dros 20% o’r boblogaeth yn ordew neu’n ordew iawn, tra bod 35.2% o fechgyn Blwyddyn 6 a 31.2% o ferched Blwyddyn 6 dros bwysau neu’n ordrwm.
Er ei fod wedi’i argymell y dylai plant wneud 60 munud o weithgarwch corfforol cymedrol i egnïol bob dydd, bu prosiect CHANGE! archwilio faint o weithgarwch corfforol yr oedd y plant yn ei wneud mewn gwirionedd. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar 12 ysgol – roedd chwech yn ysgolion ‘ymyrraeth’ a bu chwech arall yn ymddwyn fel ‘rheolyddion’ ar gyfer y prosiect.

Roedd Prosiect CHANGE! yn rhaglen gwricwlwm  bwyta’n iachus a gweithgarwch corfforol 20 wythnos o hyd, gyda chyfnod dilynol pellach o 10 wythnos.

Bu athrawon yn derbyn hyfforddiant a phecyn adnoddau i’w helpu i gynnal y prosiect tra rhoddwyd tasgau gwaith cartref i’r plant a’u teuluoedd. 

Dangosodd y canlyniadau bod yr ‘ymyrraeth’ yn llwyddiannus yn ystod yr wythnos gyda phlant yn ymgymryd ag 8 munud yn fwy ar gyfartaledd o weithgarwch cymedrol i egnïol (MVPA) na phlant y ‘rheolyddion’. 

Fodd bynnag, ar benwythnosau bu plant y grŵp ‘ymyrraeth’ yn gwneud 5.6 munud yn llai o MVPA y dydd, sy’n awgrymu na fu’r rhieni’n parhau gyda’r prosiect i’r un radd â’r ysgolion ac nid yw targedu plant yn unig yn ddigon i achosi newidiadau sylweddol mewn ffordd o fyw.

Gwnaeth tîm y prosiect hefyd ddarganfod bod yr effeithiau ymyrraeth yn gryfach ymhlith plant ymyrraeth isel economaidd-gymdeithasol, sy’n wynebu’r perygl mwyaf o statws iechyd gwael.

Meddai Dr Mackintosh: “Ar ddiwedd y prosiect, gwnaethom awgrymu bod angen i deuluoedd gymryd mwy o ran, yn enwedig wrth hyrwyddo gweithgarwch corfforol dros y penwythnosau.

“Rydym yn gobeithio ehangu’r prosiect nawr gan ddefnyddio cyfnodau dilynol hirach a gwerthusiad manwl o ddarpariaeth yr ymyrraeth ac mae Cyngor Wigan yn awyddus i ymestyn y rhaglen ar draws y fwrdeistref gyfan.”