Michael Sheen yn derbyn gradd anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe yn Efrog Newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r actor o Gymru a fagwyd ym Mhort Talbot ger Abertawe, Michael Sheen wedi derbyn gradd anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe.

Derbyniodd Michael Sheen yr anrhydedd yn Efrog Newydd neithiwr (Hydref 16, 2012), lle'r oedd ef ac Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies wnaeth gyflwyno’r wobr iddo, yn mynychu lansiad Dyddiaduron Richard Burton yn America, sy’n cael eu cadw ym Mhrifysgol Abertawe ac sy’n cynnig cip ar fywyd mab arall enwog o Bort Talbot.

Michael Sheen Hon degree 1

Mae dyfyniad swyddogol y Brifysgol yn datgan bod Michael Sheen yn derbyn yr anrhydedd o ganlyniad i’w ‘‘gyfraniad enfawr i fywyd diwylliannol de Cymru a’r byd ehangach, ac am roi enw da i Gymru ar draws y byd.’’

Meddai Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies:

‘‘Caiff y gwobrau hyn eu cyflwyno i unigolion fel cydnabyddiaeth o’u llwyddiant aruthrol a    chyfraniad i’r Brifysgol neu ranbarth. Mae Michael Sheen wedi llwyddo ar lefel ryngwladol. Ond mae wedi cadw’n glos at ei wreiddiau a sicrhau ei fod yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r rhan yma o’r byd. Rydym felly wrth ein boddau o fedru ei anrhydeddu â’r wobr arbennig hon.’’

Wrth dderbyn ei anrhydedd, dywedodd Michael Sheen:

‘‘Rwy’n falch iawn o dderbyn y Radd Anrhydeddus hon, yn enwedig gan ei bod yn dod o Abertawe, y ddinas y ces i fy magu nid nepell ohoni a lle y bum yn hapus iawn yn fy mhlentyndod. Rwy’n falch o ddal i fod ynghlwm â sefydliadau yn ardal Gorllewin Morgannwg felly mae cael fy anrhydeddu gan Brifysgol Abertawe yn y modd hwn yn golygu llawer i mi.’’

Ar ôl dechrau yn Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg, aeth Michael Sheen yn ei flaen i astudio yn RADA (Academi Brenhinol y Celfyddydau Dramatig) cyn ennill ei rôl broffesiynol gyntaf ar y llwyfan ym 1991 gyda Vanessa Redgrave. Mae wedi chwarae sawl rôl wahanol gan gynnwys Romeo, Henry V, Peer Gynt a’r gormeswr Rhufeinig, Caligula.

Michael Sheen hon degree 2

Ar y sgrîn, mae wedi chwarae sawl rhan megis y cyn brîf weinidog Tony Blair, yr holwr David Frost, rheolwr pêl-droed Lloegr, Brian Clough a’r actor Kenneth Williams. Yn fwy diweddar, fe’i gwelwyd ar y teledu yn yr Unol Daleithiau, wrth actio gyda Tina Fey yn nrama boblogaidd NBC, 30 Rock.

Wedi’i gymeradwyo gan gynulleidfaoedd a beirniaid mewn sawl gwlad, mae Michael wedi cyfrannu’n helaeth at dde Cymru mewn sawl ffordd. Un enghraifft yw The Passion, cynllun theatr unigryw a lwyfannwyd dros gyfnod o dridiau ym Mhort Talbot, sef man geni Richard Burton and Sir Anthony Hopkins hefyd.

Mae Michael Sheen yn llysgennad nifer o elusennau a mentrau diwylliannol, gan gynnwys Gwobr Dylan Thomas, sy’n hyrwyddo awduron ifanc ac sy’n coffáu bardd Abertawe, ac un o feibion enwog eraill de Cymru.

Hawlfraint Dan Callister 2012 yw'r lluniau www.dancallister.com