Prifysgol Abertawe yn croesawu penderfyniad i barhau â’u cynlluniau cyffrous i ddatblygu campws

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu’r penderfyniad gan Gyngor Castell Nedd Port Talbot i addo caniatâd cynllunio manwl i’w Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi arfaethedig gwerth £250m.

Campus re planning approval

Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yng ngham olaf proses gaffael yr UE i adeiladu’r campws newydd ar Ffordd Fabian, yn ogystal â’r gwaith o ailddatblygu campws presennol y Brifysgol ym Mharc Singleton, i greu ymchwil a chyfleusterau addysg o’r radd flaenaf yn Abertawe. Mae’r cynlluniau manwl sydd wedi’u cymeradwyo gan y Cyngor yn dilyn cais cynllunio gwreiddiol sydd wedi’i gymeradwyo eisoes. Os fydd y broses gaffael yn llwyddiannus, bydd y gwaith yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd, gyda’r gobaith o dderbyn y myfyrwyr cyntaf yn 2015.

Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies: ‘‘Rydym yn falch o fod wedi derbyn caniatâd gan Gyngor Castell Nedd Port Talbot ac yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad cadarnhaol i’r cynllun yma. Bydd y campws newydd yn galluogi’r Brifysgol i ddatblygu ei chryfderau academaidd yn ogystal â hybu’r gwaith o adfywio’r economi. Bydd y campws yn newyddion da i’r Brifysgol; Castell Nedd Port Talbot a’r ardal gyfan.

‘‘Bydd y cynllun uchelgeisiol yma yn ein galluogi i ddenu buddsoddiad mewnol o Gymru a hyrwyddo datblygiad clystyrau technoleg uwch. Bydd yn fodd o sicrhau bod yr ardal yn lleoliad byrlymus ar gyfer cwmnïau technoleg gan greu hyd yn oed fwy o argraff yn y pen draw.’’

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Bydd y campws newydd yn darparu ‘Parc Gwyddoniaeth’ cenhedlaeth nesaf gan gydleoli ymchwilwyr y Brifysgol ac ymchwilwyr o fyd diwydiant, myfyrwyr ac academyddion - a fydd nid yn unig ar yr un safle, ond hefyd yn defnyddio’r un labordai a’r un cyfleusterau. Mae’n enghraifft fyd eang o osod partneriaeth ochr yn ochr gyda gwybodaeth trwy gyfrwng ymchwil ar y cyd mewn menter integredig. Bydd hyn yn darparu cyfle i drosglwyddo gwybodaeth ac yn sicrhau bod y cwricwlwm a ddilynir a’r sgiliau a ddatblygir gan ein myfyrwyr yn rhai o’r radd flaenaf ac yn berthnasol i anghenion busnesau yn y dyfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell Nedd Port Talbot: ‘‘Bydd y cynllun yma yn hwb enfawr i economi Castell Nedd Port Talbot a’r ardal ehangach. Bydd yn cefnogi twf swyddi crefftus yn ogystal â busnesau ac mae’n enghraifft wych a chyffrous o’r datblygiadau newydd y mae coridor Ffordd Fabian yn eu denu. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynllun yn datblygu.’’