Prifysgol Abertawe yn penodi Cyn-Weinidog Llywodraeth fel ei Hymgynghorydd Strategol.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi penodiad Cyn-Weinidog Llywodraeth Cymru Andrew Davies, yn Ymgynghorydd Strategol y Brifysgol ac Athro er anrhydedd.

Roedd Andrew Davies yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Abertawe o 1999 i 2011 ac fel Cyn-Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru a Gweinidog Datblygu Economaidd mae’n adnabyddus ar draws Cymru a'r DU.

Andrew Davies   Wrth drafod y penodiad, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Richard Davies: "Rydym yn falch iawn bod Andrew wedi cytuno i fod yn Ymgynghorydd Strategol i ni. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad lefel-uchel gwerthfawr i'r rôl a fydd yn cynnwys cynghori uwch reolwyr yn y Brifysgol, yn enwedig ar faterion megis ehangu’r campws a pholisi cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef. Rydym hefyd yn falch o gydnabod arbenigedd a gorchestion Andrew drwy ei benodi’n Athro er anrhydedd yn gysylltiedig â'r Sefydliad Ymchwil ar gyfer Astudiaethau Cymdeithasol Cymhwysol o fewn yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol.”

Meddai Andrew Davies: "Fel un o raddedigion y Brifysgol ac fel un sydd wedi cael y fraint o gynrychioli pobl Abertawe am dros ddegawd, yr wyf yn hynod o falch o’m cysylltiadau â'r ddinas. Mae'n anrhydedd mawr i gael fy ngwneud yn athro, ac i gael fy mhenodi i’r rôl newydd hon i helpu i Brifysgol Abertawe i gyflawni ei gweledigaeth gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. "

Yn raddedig o Brifysgol Abertawe, lle bu'n hyfforddi hefyd fel athro, mae Andrew yn gynghorydd cymwysedig ac wedi darlithio yn helaeth o fewn  addysg bellach, uwch a pharhaus. Mae ganddo wybodaeth fanwl o’r economi Gymreig yn sgil ei brofiad mewn llywodraeth, y sector preifat a meysydd addysg a hyfforddiant.