Teitl Nyrsio Frenhinol i Uwch Diwtor Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Andrea Surridge, Tiwtor yng Ngholeg Gwyddorau Dynol a Iechyd, Prifysgol Abertawe wedi derbyn teitl ‘Nyrs y Frenhines’ gan elusen gymunedol Sefydliad Nyrsio Frenhinol.

QNIAward

Mae’r teitl yn dynodi ymrwymiad i safon uchel o ofal cleifion, dysgu ac arweiniad. Mae nyrsys sy’n derbyn y wobr yn elwa o weithdai, ysgoloriaethau, rhwydweithio yn ogystal â nifer o gyfleoedd eraill.

Roedd Andrea ymhlith trigain o nyrsys eraill ar draws y Deyrnas Unedig i dderbyn y teitl mewn seremoni yn Llundain fis diwethaf.

Meddai Cyfarwyddwr Sefydliad Nyrsio Frenhinol: ‘‘Llongyfarchiadau i Andrea ar ei llwyddiant. Mae nyrsys cymunedol yn gweithio mewn byd heriol a’n cyfrifoldeb ni yw eu cefnogi hyd gorau ein gallu. Hoffwn annog nyrsys eraill i ymgeisio am y teitl yn y dyfodol.’’