Teyrnged i Stephen Healey

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Teyrnged i Stephen Healey, cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a laddwyd yn Afghanistan

‘‘Trist iawn oedd clywed y newyddion am Stephen, a raddiodd mewn Gwyddor Chwaraeon o Brifysgol Abertawe yn 2005. Roedd Stephen yn fyfyriwr arbennig iawn, yn hynod weithgar ac yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr a staff fel ei gilydd. Mi wnaeth Stephen gynrychioli tîm pêl-droed cyntaf y brifysgol rhwng 2002-2005 a chymerodd ran fywiog iawn ym mywyd y brifysgol. Bydd yn cael ei gofio am ei gyfraniadau sylweddol i’r brifysgol ym maes chwaraeon yn ogystal ag astudiaethau academaidd.’’

Athro James Watkins, Athro Gwyddor Chwaraeon. Pennaeth Adran Gwyddor Chwaraeon yn 2005.