“Traumas of the Mediated Society: Cinema and Technological Narratives.”

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y nesaf mewn cyfres o ddarlithoedd cymunedol am ddim a drefnwyd gan Adran Addysg Barhaus Oedolion Prifysgol Abertawe (AABO) ar ddydd Mawrth, 15fed Mai, 2012.

Siaradwr:  Dr Alexia L Bowler, Aelod Cyswllt Ymchwil Anrhydeddus, Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH), Prifysgol Abertawe.

Teitl y ddarlith: “Traumas of the Mediated Society: Cinema and Technological Narratives.”


Dyddiad:  Dydd Mawrth, 15fed Mai, 2012

 

Amser: 10.00am – 11.45am

Lleoliad: Ystafell Discovery, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN.

Mynediad: Mae mynediad am ddim ond dim ond nifer cyfyngedig o seddi sydd ar gael yn y lleoliad felly bwciwch o flaen llaw i osgoi cael eich siomi (gweler isod am fanylion cyswllt).


Gwybodaeth am y Siaradwr: Mae Dr Alexia L Bowler yn Aelod Cyswllt Ymchwil Anrhydeddus yn Sefydliad Ymchwil  y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH) ym Mhrifysgol Abertawe. Ei diddordebau ymchwil yw ffilmiau Hollywood, cynrychiolaethau o dechnoleg mewn llenyddiaeth a ffilm, rhyw/ffeministiaeth mewn ffilm, addasiadau o lenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn teledu, ffilm a llenyddiaeth, llenyddiaeth gyfoes, genre, addasiadau a damcaniaeth feirniadol.

 

Crynodeb o’r ddarlith: Bydd y sgwrs hon yn archwilio’r ffyrdd y mae naratif sinematig benodol yn ymdrin â chymdeithas fwyfwy cyfryngol neu dechnolegol ac a yw sinema, fel profiad ynddo’i hun, yn gyfrwng addas ar gyfer gofyn cwestiynau am natur technoleg.  


I gadw lle neu am ragor o wybodaeth galwch 01792 602211 neu e-bostiwch: adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd modd bwcio trwy’r lleoliad lle y cynhelir y ddarlith). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.