Y Fflam Olympaidd yn disgleirio ar Brifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Wrth i’r Fflam Olympaidd gynnau llwybr o amgylch ei champws, bydd Prifysgol Abertawe’n adlewyrchu ar y rôl bwysig y mae’n ei chwarae yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 ac wrth godi proffil Abertawe a Chymru fel lleoliad o bwys ar gyfer chwaraeon.

Yn ogystal â chynnal gwersylloedd ymarfer cyn y Gemau athletwyr Paralympaidd Seland Newydd a Mecsico, mae pedwar myfyriwr o Brifysgol Abertawe eisoes wedi’u dewis i gystadlu yn y gemau Olympaidd ac mae cyn-fyfyriwr a raddiodd o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gyfrifol am gynllunio taith y Fflam.  

Bydd gan Bwyllgor Paralympaidd Mecsico gyfanswm o 40 o dimoedd wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Meddai’r Athro O. Sergio Durand Alcántara, Ysgrifennydd Cyffredinol Pwyllgor Paralympaidd Mecsico:

 “Bydd yn fraint fawr cael ein gwersyll ymarfer olaf cyn cystadlu yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012 ym Mhrifysgol Abertawe yng Nghymru; mae’r lleoliadau i gyd yn dda iawn.

“Mae hefyd yn bwysig nodi’r gefnogaeth wych yr wyf wedi’i derbyn gan Lywodraeth Cymru a hefyd gan staff Prifysgol Abertawe. Rydw i’n siwr y bydd ein gwersyll ymarfer cyn y Gemau yn llwyddiant mawr ac yn cael effaith bositif ar y medalau y bydd ein Cynrychiolwyr Cenedlaethol yn eu hennill yn y Gemau Paralympaidd, ond hefyd o safbwynt y cyfle i ryngweithio â phobl Cymru.”

Mae tîm Paralympaidd Seland Newydd hefyd wedi dewis Abertawe fel y lle i wneud eu paratoadau olaf cyn Gemau Paralympaidd Llundain 2012. Dywedodd Prif Weithredwr PNZ, Fiona Pickering, bod eu tîm perfformiad uchel yn “hapus iawn gyda’r cyfleusterau yn Abertawe a’r tîm o bobl yng Nghymru.”

Mae gan Abertawe rhai o’r cyfleusterau chwaraeon gorau yn y DU, Pwll Cenedlaethol Cymru, trac athletau rhanbarthol a chaeau ymarfer artiffisial o safon uchel, ynghyd ag ystod o gyfleusterau yn yr LC, a bydd yn lle ymarfer gwych i athletwyr Paralympaidd o Seland Newydd a Mecsico.

Yn agosach i gartref mae Prifysgol Abertawe’n falch iawn bod pedwar o’i myfyrwyr eisoes wedi cymhwyso ar gyfer y Gemau – y nofiwr Georgia Davies a’r nofwyr paralympaidd Matthew Whorwood a Gemma Almond a’r chwaraewr boccia paralympaidd David Smith.

Mae’r fyfyrwraig Hanes Gemma Almond wedi cymhwyso ar gyfer y ras 200m cymysg unigol gan osod record Brydeinig newydd a chwalu’r record ar gyfer y 100m yn null pili-pala tra bod y myfyriwr BEng Peirianneg Fecanyddol Matthew Whorwood wedi cymhwyso ar gyfer y tîm nofio Paralympaidd ac mae wrthi’n ymarfer gyda nhw ar hyn o bryd. Bydd y fyfyrwraig yn y Gyfraith Georgia Davies yn cystadlu yn y 100m dull cefn a bydd y myfyriwr BEng Peirianneg Awyrofod David Smith yn ymuno â’i gyfeillion o dîm Prydain Fawr ar y cwrt boccia.

Mae’r cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe Claudine Ratnayake, a raddiodd mewn Gwyddor Reoli Americanaidd ym 1997, yn gyfrifol am gynllunio llwybr y Fflam, y llefydd y bydd y Fflam aros ynddynt, a’r logisteg ar gyfer pob dydd yn ogystal â gweithio gydag Awdurdodau Lleol i gynnal y Dathliad Gyda’r Nos. Mae hi’n gyfrifol am 17 diwrnod yn y De-orllewin, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Chymru. Pan mae’r Fflam ar ei thaith, swydd Claudine yw gwneud yn siwr ei bod bob amser 5 munud - 2 awr o flaen y confoi i sicrhau bod popeth yn digwydd yn ôl y cynllun ac os oes rhywbeth wedi mynd o’i le - i’w drwsio! Ar ôl i daith y Fflam ddod i ben, bydd Claudine yn dechrau paratoi ar gyfer taith y Fflam Paralympaidd.