AABO Beth sy'n Digwydd:Dysgu Marw Er Mwyn Dysgu Byw

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith gymunedol nesaf yng nghyfres rad ac am ddim Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) Prifysgol Abertawe yn gynnar ym mis Chwefror.

Siaradwr: Dr Penny Sartori

Teitl y Ddarlith: Dysgu Marw Er Mwyn Dysgu Byw: Sut mae wynebu ffaith ein marwolaeth yn gallu ein helpu i fyw bywyd llawn ac i wynebu ein hanghenion ysbrydol sylfaenol

Dyddiad:  Dydd Mercher 6 Chwefror 2013

Amser: 6.30pm – 8.15pm

Lleoliad: Gweithdy DOVE, Roman Road, Y Banwen, Castell-nedd, SA10 9LW

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb.

Crynodeb o'r ddarlith: Bydd Dr Sartori, sy'n gyn-nyrs gofal dwys ac yn arbenigwr byd-eang mewn profiad o drothwy marwolaeth, yn disgrifio sut y gallai mynd i'r afael â'n hanghenion ysbrydol ein grymuso, a chael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd. Trwy fynd i'r afael â'n hanghenion ysbrydol sylfaenol ac wynebu ffaith ein marwolaeth ein hunain, gallwn ddod o hyd i'r egni a'r ewyllys i fyw bywyd llawn.

Cysylltwch â: I archebu lle neu am ragor o wybodaeth, galwch 01792 602211 neu anfonwch e-bost at: adult.education@abertawe.ac.uk Ewch i www.swansea.ac.uk/dace