Arddangosfa gelf yn amlygu ymchwil Abertawe ym maes heneiddio

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae casgliad unigryw o weithiau celf ar y thema heneiddio, gan gynnwys ffotograffau a phrintiau, wedi'i arddangos yn Abertawe i annog ymchwilwyr o wahanol bynciau i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer prosiectau ymchwil sy'n ymwneud â heneiddio.

Mae'r gweithiau celf wedi'u cynhyrchu gan artistiaid o ar draws y DU ac maent yn cael eu harddangos tan 21 Mehefin mewn gwahanol leoliadau ar draws campws y Brifysgol ac yn Ysbyty Singleton.

Mae'r arddangosfa'n rhan o'r prosiect Cyrraedd Aeddfedrwydd, a arweinir gan y Rhwydwaith Datblygu Ymchwil Pobl Hŷn a Heneiddio (OPAN Cymru), sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r arddangosfa wedi cynnwys gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Meddai Maria Cheshire-Allen o OPAN ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae mynd yn hŷn yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei brofi ac mae ymchwil yn dangos i ni sut y mae'r broses hon yn dechrau yn y groth.  Syniad yr arddangosfa yw dangos i ymchwilwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol o lawer o feysydd pwnc gwahanol bod ymchwil ym maes heneiddio'n berthnasol iddynt. Rydym am beri iddynt feddwl am heneiddio mewn ffyrdd nad ydynt wedi o'r blaen o bosib."