Astudiaeth Lancet Prifysgol Abertawe'n cwestiynu defnydd probiotigau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhoi presgripsiynau o brobiotigau i gleifion hŷn sydd mewn peryg o ddolur rhydd oherwydd defnydd o antibiotigau wedi dod yn arfer rheolaidd mewn rhai sefydliadau. Mae'r astudiaeth hon gan Brifysgol Abertawe, yr astudiaeth fwyaf o'i fath a gynhaliwyd erioed ac sydd wedi'i chyhoeddi ar wefan Lancet heddiw, dydd Iau 8 Awst 2013, yn cwestiynu eu heffeithiolrwydd.

Gwnaeth bron i 3,000 o gleifion gymryd rhan yn yr hap dreial aml-ganolfan, dwbl-ddall hwn. Cafodd paratoad microbaidd (y 'probiotig') a phlasebo eu gosod ar hap mewn capsiwlau unfath i bobl hŷn o wahanol wardiau mewn pum ysbyty GIG gwahanol. Fel treial 'dwbl-ddall', nid oedd y cleifion na'r ymchwilwyr yn gwybod pwy oedd yn derbyn pa baratoad tan ddiwedd y treial pan gafodd yr holl ddata ei gasglu.

Rhoddwyd cwrs o 21 diwrnod o'r capsiwlau i'r cleifion a chofnodwyd y canlyniadau dros gyfnod o 8-12 wythnos.  Roedd lefelau cydymffurfio'n dda, gyda thri chwarter o'r cleifion yn cymryd y capsiwlau am 14 diwrnod neu fwy a dros hanner yn cwblhau'r cwrs llawn 21 diwrnod.

Cafodd ychydig dros 10% o'r cleifion ddolur rhydd. Fodd bynnag, roedd yr un mor gyffredin ymhlith cleifion a fu'n cymryd y paratoad microbaidd a'r rheiny a fu'n cymryd y plasebo. Roedd dolur rhydd a achoswyd gan Clostridium difficile (neu “C. diff”) yn anghyffredin - bu'n digwydd gydag oddeutu 1% o'r cleifion. Cafwyd gostyngiad bach mewn achosion dolur rhydd oherwydd C. diff ymhlith y rheiny a fu'n cymryd y paratoad microbaidd ond roedd y gwahaniaeth yn fach iawn - dim ond 12 achos o'i gymharu ag 17 achos.

Mae Stephen Allen yn Athro mewn Pediatreg ac Iechyd Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe ac mae wedi'i leoli yn Sefydliad Gwyddor Bywyd y Coleg Meddygaeth. Ef yw'r prif ymchwilydd ar yr astudiaeth ac esboniodd arwyddocâd y canlyniadau:

"Ar y cyfan, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw wybodaeth bod y paratoad bacteriol yn 'probiotig' yn y grŵp hwn o gleifion. Hefyd, cafodd nifer o ganlyniadau iechyd eraill eu cofnodi ac roedd ansawdd bywyd yn debyg ymhlith cleifion a fu'n cymryd y paratoad microbaidd a'r rheiny a fu'n cymryd y plasebo.

Fodd bynnag, mae nifer fawr o 'brobiotigau' posib y gellir eu profi. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw mynd yn ôl i'r labordy i ddeall mwy am fecanweithiau clefydau sy'n sail i achosi dolur rhydd ymhlith pobl sy'n cymryd antibiotigau a dod o hyd i dystiolaeth bod gan ficrob penodol gyfle da o weithio. Efallai wedyn y gallwn gynnal treial arall".

Gwahoddwyd Nick Daneman o Brifysgol Toronto gan Lancet i gyflwyno sylwadau ar ganfyddiadau'r astudiaeth. Darganfyddodd: "Mae mwyafrif yr ymchwil probiotig blaenorol wedi cynnwys astudiaethau bach, canolfan unigol o ansawdd amrywiol. Fan lleiaf, mae'r gostyngiadau peryg absoliwt isel yn yr astudiaeth hon yn cwestiynu cost effeithiolrwydd probiotigau".

Daeth i'r casgliad: 'Mae'r astudiaeth PLACIDE yn astudiaeth negatif fawr a thrwyadl, ac mae'n rhaid i ni farnu a ydyw'n gallu troi'r fantol o safbwynt tystiolaeth probiotig'.

Wrth sôn am yr ymchwil, meddai'r Athro Keith Lloyd, Deon a Phennaeth y Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe: "Llongyfarchiadau i'r Athro Allen a'i gydweithwyr. Mae'r astudiaeth ansawdd uchel hon yn nodweddiadol o'r ymchwil wych sy'n cael ei chynnal yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe - astudiaethau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles dynol."