Astudiaeth yn darganfod bod y bwlch rhwng y rhywiau mewn perfformiad academaidd yn diflannu mewn Addysg Wyddoniaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi canfod nad oes gogwydd o ran rhyw'n bresennol mewn perfformiad wrth ddefnyddio dulliau asesu 'profi trwy ddileu' ar fyfyrwyr y gwyddorau bywyd. Caiff canfyddiadau'r astudiaeth newydd eu cyhoeddi ar-lein yn y cylchgrawn rhyngwladol PLOS ONE.

Dr Geertje van KeulenMae'r gwaith, a arweinir gan Dr Geertje van Keulen o Goleg Meddygaeth y Brifysgol, yn canolbwyntio ar y modd y caiff gwybodaeth ei hasesu, yn benodol trwy ddefnyddio holiaduron amlddewis, sy'n cael eu defnyddio'n fwyfwy erbyn hyn fel dull asesu mewn nifer o raddau'r gwyddorau bywyd.

Mae'r astudiaeth, a ariannir gan yr Academi Addysg Uwch ac sydd â lefel uchel o gyfranogiad gwirfoddol gan fyfyrwyr, yn dangos bod y bwlch mewn perfformiad rhwng y rhywiau a fu gynt yn bresennol mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) wedi gostwng i lefel lle nad oes gwahaniaeth arwyddocaol bellach.

Hefyd, mae'n dangos bod profiad y myfyrwyr a pherfformiad myfyrwyr yn gwella wrth newid y fformat Cwestiynau Amlddewis i wobrwyo gwybodaeth rannol, techneg a adnabyddir fel 'profi trwy ddileu'.

Gellir defnyddio profion Chwestiynau Amlddewis i fesur gwybodaeth ffeithiol yn wrthrychol, ond gall hefyd gyflwyno gogwydd o ran rhyw yn dibynnu ar y testun, y cyfarwyddiadau, y dull sgorio a pha mor anodd ydyw. Y prawf 'Un Ateb' yw'r un y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei gofio, lle gofynnir i chi ddewis un ateb cywir ac nid oes modd dangos gwybodaeth rannol.

Yn y mathau hyn o brofion, heb amodau marcio negyddol, merched yn aml fyddai'n perfformio gwaethaf gan eu bod yn dangos ymddygiad a oedd yn wrthwynebus i gymryd risgiau.

Mae Profi trwy Ddileu yn fath gwahanol brofi trwy ddefnyddio Cwestiynau Amlddewis, sy'n gwahaniaethu rhwng lefelau gwybodaeth gan wobrwyo'r gallu i ddangos gwybodaeth rannol.

Mae canlyniadau'r astudiaeth yn dangos yr oedd myfyrwyr y gwyddorau bywyd dan fantais sylweddol drwy ateb y prawf Cwestiynau Amlddewis mewn fformat dileu o'i gymharu â fformat un ateb.

Yn bwysig, ni ddaeth yr astudiaeth o hyd i unrhyw wahaniaeth sylweddol o ran perfformiad rhwng y rhywiau yn y naill garfan ar gyfer y naill brawf Cwestiynau Amlddewis dan amodau marcio negyddol.  Dangosodd arolygon hefyd ei fod yn well gan fyfyrwyr yn gyffredinol profion Cwestiynau Amlddewis yn null Profi trwy Ddileu na phrofion dull Un Ateb. A gwnaeth myfyrwyr ddweud eu bod yn teimlo eu bod wedi'u hymlacio'n fwy wrth sefyll profion Amlddewis yn null Profi trwy Ddileu a chytunwyd eu bod yn gwella eu sgiliau meddwl yn ddadansoddol.

Meddai Dr Van Keulen, a anwyd yn yr Iseldiroedd ac a ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2007 o Brifysgol Groningen yn yr Iseldiroedd: "Dyma'r tro cyntaf i astudiaeth go iawn gael ei chynnal ar y dulliau asesu gwahanol ac mae'r canlyniadau'n addawol tu hwnt.

"Yma yn Abertawe, rydym yn adnabyddus ar gyfer arfer da mewn dulliau addysgu arloesol ac mae cyhoeddwyr yn dangos diddordeb gwirioneddol mewn canfyddiadau'r astudiaeth, felly mae'n bosib y gallwn weld y dull dileu yn cael ei fabwysiadu'n llawer mwy eang."

Bydd Dr Van Keulen yn sôn am ganlyniadau'r astudiaeth yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol STEM yr Academi Addysg Uwch, a gynhelir yn Birmingham rhwng Ebrill 17-18. 

Meddai Dr Nathan Pike, arweinydd y ddisgyblaeth ar gyfer y Gwyddorau Biolegol yn yr Academi Addysg Uwch, a ariannodd yr ymchwil:  "Mae gan ymarferwyr ym maes y Gwyddorau Biolegol amrywiaeth o sylwadau ar werth addysgeg Cwestiynau Amlddewis mewn asesu a dysgu. Fodd bynnag, gwn y byddant yn gytûn wrth gydnabod y gwerth mawr sydd i astudiaethau (megis yr astudiaeth hon) sy'n ein helpu i wella Cwestiynau Amlddewis fel offerynnau addysgeg i'w defnyddio'n briodol mewn Addysg Uwch.

Meddai Dr Janet De Wilde, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth STEM yn yr Academi Addysg Uwch:  "Mae canlyniad yr astudiaeth hon yn bwysig iawn i'r gymuned Biowyddoniaeth ac edrychaf ymlaen yn fawr at gyhoeddiad y canlyniadau yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol STEM 2013 yr Academi Addysg Uwch a gynhelir ym Mhrifysgol Birmingham ym mis Ebrill."

Meddai Sarah Broadley, Rheolwr Marchnata ar gyfer Gwyddoniaeth Addysg Uwch, Gwasg Prifysgol Rhydychen:  "Mae Gwasg Prifysgol Rhydychen yn falch eu bod wedi cynorthwyo â'r ymchwil hon. Rydym yn gobeithio y bydd y canfyddiadau'n helpu i wella safon addysgu a dysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig trwy ddarparu tystiolaeth ar gyfer dulliau asesu sy'n gwobrwyo gwybodaeth myfyrwyr yn well."

Mae'r astudiaeth lawn, o'r enw “Negatively-marked MCQ assessments that reward partial knowledge do not introduce gender bias yet increase student performance and satisfaction and reduce anxiety”, ar gael yn: http://dx.plos.org/10.1371/journal.pone.0055956.