BEACON ar restr fer gwobr Ewropeaidd o bwys

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Bioburo, BEACON, canolfan ymchwil arloesol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion er mwyn lleihau dibyniaeth ar adnoddau ffosil megis glo a nwy, wedi ei chynnwys ar y rhestr fer Gwobrau RegioStarts y Comisiwn Ewropeaidd 2014.

Yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd yn arwain BEACON, sy’n gynllun ar y cyd rhwng tair prifysgol; Aberystwyth, Bangor (lle mae’r gwaith yn cael ei arwain gan y Ganolfan Biogyfansoddion) ac Abertawe.

Mae ymchwilwyr yn BEACON yn cydweithio gyda diwydiant, gan gynnwys mentrau bach a chanolig, i ddatblygu deunyddiau adnewyddadwy, tanwydd a chemegau yn ogystal ag addasu a phrosesau newydd sy'n fwy cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol ac economaidd.

Mae'n un o 4 prosiect ar y rhestr fer y dosbarth: "Twf cynaliadwy: twf gwyrdd a swyddi drwy’r Bio-economi".

Y tri arall yw Ecoponto em Casa o Bortiwgal, ORGANEXT o Wlad Belg, yr Almaen a'r Iseldiroedd, ac ARBOR sydd â phartneriaid o'r DG, Iwerddon, yr Almaen, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.

Mae'r Gwobrau RegioStars yn cydnabod y prosiectau rhanbarthol mwyaf ysbrydoledig ac arloesol yn Ewrop.

Yn seiliedig ar bedwar maen prawf allweddol - arloesedd, effaith, cynaladwyedd a phartneriaeth – mae BEACON yn un o 19 i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer 2014 o blith 80 o brosiectau a gefnogir gan Gronfeydd Cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cynrychiolaeth o ddwy wlad ar bymtheg yn y rownd derfynol: Gwlad Belg, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, yr Eidal, Iwerddon, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Sbaen, Sweden, a'r Deyrnas Unedig.

Bydd y rhai sydd drwyddo i’r rownd derfynol yn arddangos eu gwaith ar 8 Hydref, yn ystod yr 11eg Wythnos Ewropeaidd y Rhanbarthau a’r Dinasoedd, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ym Mrwsel ar 31 Mawrth 2014.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison o IBERS Prifysgol Aberystwyth, a Chyfarwyddwr BEACON: "Mae hyn yn newyddion ardderchog ac yn gydnabyddiaeth ryngwladol o bwysigrwydd y gwaith arloesol sy'n cael ei wneud gan BEACON.

"Mae'r cysyniad y tu ôl BEACON wedi cael ei yrru gan y targedau heriol ar gyfer mabwysiadu ynni adnewyddadwy a gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, a osodwyd gan yr Undeb Ewropeaidd a chan y ddwy her fyd-eang sy'n wynebu dynoliaeth - diogelwch ynni a newid yn yr hinsawdd".

"Mae technoleg sydd yn defnyddio llai o garbon, gan gynnwys bioburo a biotechnoleg ddiwydiannol, yn cael eu gweld fel sectorau twf pwysig a bydd angen cadwyni cyflenwi cynaliadwy er mwyn creu gweithgaredd economaidd a swyddi mewn cymunedau gwledig yn ogystal â threfi a dinasoedd. Dyma sy'n darparu'r ffocws ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud yn BEACON," ychwanegodd.

Cyllidwyd BEACON drwy Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), rhan o Lywodraeth Cymru, o dan raglen Gydgyfeirio Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Ceir rhagor o wybodaeth am BEACON yma http://beaconwales.org/cy/

Mae'r rhestr lawn o'r cynlluniau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a mwy am Wobrau RegioStars ar gael yma <http://ec.europa.eu/regional_policy/cooperate/regions_for_economic_change/regiostars_14_finalists_en.cfm#10>.