Canolfan Rhagoriaeth gwerth miliynau'n aros ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe wedi derbyn tair miliwn o bunnoedd i barhau'n gartref prif gyfleuster ymchwil Sbectrometreg Màs y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol. Enillwyd y grant mewn cystadleuaeth frwd ymhlith prifysgolion blaenllaw'r DU, i gyd yn ceisio cynnig cartref i'r ganolfan bwysig hon.

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer Sbectrometreg Màs ers dros dri degawd, gan ddechrau gydag Uned Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol, a sefydlwyd gan yr Athro John H Beynon FRS.  Daw'r grant diweddaraf o waith a wnaed gan yr Athro Gareth Brenton a'i gydweithwyr yn y Sefydliad Sbectrometreg Màs, sy'n rhan o'r Sefydliad Gwyddor Bywyd. Mae hyn yn un o raglenni ariannu parhaus hwyaf y Cyngor yn y DU, ac mae canolfan Abertawe yn gyson yn un o gyfleusterau gorau'r Cyngor, gan ddod ar ben y rhestr o Ganolfannau Cemeg Cenedlaethol y Cyngor yn y DU.

Mae'r Ganolfan, sydd ar gael i holl grwpiau ymchwil prifysgolion y DU, yn arbenigo yn y dadansoddi cemegol anosaf, ac yn tanategu ymchwil blaenllaw gwyddonwyr y DU. Bu yn y newyddion yn ddiweddar ar ôl i'w gwyddonwyr ddarganfod dau fath o foleciwl steroid a allai helpu trin clefyd Parkinson.

Dywedodd yr Athro Gareth Brenton, pennaeth y Sefydliad Sbectrometreg Màs:"Mae Sbectrometreg Màs yn Abertawe wedi darparu ymchwil, hyfforddiant, ac addysgu o safon yn gyson. Mae'n dechneg ddadansoddol sy'n tanategu llawer o feysydd gwyddonol, ac mae'n cael effaith fawr o ran gallu Gwyddoniaeth y DU i gystadlu. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r ddisgyblaeth wyddonol bwysig hon, a hyfforddi arweinwyr ymchwil y dyfodol ar gyfer y byd academaidd a diwydiant.

Yn ystod y tri degawd diwethaf, mae Canolfan Abertawe wedi dadansoddi dros 250,000 o gyfansoddion unigryw, wedi cofnodi dros filiwn o sbectra annibynnol sy'n debyg i 'ôl bys' cemegol, a hyfforddi dros 250 PhD.  Felly, mae wedi cyfrannu nid yn unig i economi'r rhanbarth ond hefyd i'r diwydiannau amrywiol ar draws y DU sy'n dibynnu ar sbectrometreg màs.

Mae sêr Sbectrometreg Màs Abertawe yn enwog ledled y byd; dyfeisiodd yr Athro Beynon ddull o adnabod cyfansoddion cemegol yn unigryw trwy fesur eu màs yn fanwl gywir. Fel cromatograffi, a ddatblygwyd gan yr Athro David Games, mae sbectrometreg màs wedi dod yn ddull allweddol o ran dadansoddi cemegol. Mae'r technegau hyn yn cefnogi marchnad fyd-eang gwerth oddeutu tri biliwn o ddoleri'r flwyddyn.

Mae'r Sefydliad yn cyfrannu i ymchwil cymhwysol yn y DU hefyd, ac mae wedi sbarduno dylunio o leiaf chwe theclyn pwysig newydd yn y DU ac ar draws y byd. Enillodd yr Athro Brenton y brif wobr ryngwladol am ddatblygu offeryniaeth sbectrometreg màs.

Wrth sôn am y grant, dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth y Coleg Meddygaeth: "Mae hyn yn glod mawr ar gyfer ein hysgol meddygaeth oddi wrth y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol. Mae'n arbennig o galonogol gan ei fod yn dod ond ychydig fisoedd ar ôl ennill grant gan y Cyngor Ymchwil Meddygol am ganolfan i ymchwilio cofnodion iechyd electronig. Mae'r cyflawniadau hyn yn dangos sut yr ydym yn aeddfedu fel ysgol meddygaeth yn seiliedig ar ymchwil."