Clod i Dîm Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Categori Gwasanaethau Myfyrwyr yng Ngwobrau Arwain a Rheoli’r Times Higher Education eleni.

SS Award Pic

Y Cynllun Llwyddo Academaidd ddaeth i frig y categori. Lansiwyd y cynllun y llynedd ac mae erbyn hyn ynghlwm â sawl cynllun llwyddiannus gan gynnwys Cynllun Ymgyrraedd yn Ehangach y Brifysgol.

Mae’r academi yn cynnig sesiynau galw heibio a dosbarthiadau i wella sgiliau cyflwyno a chefnogaeth wrth ddysgu Saesneg, apwyntiadau un wrth un yn ogystal â 10 awr wythnosol o gefnogaeth ym mhob pwnc mewn partneriaeth â’r colegau academaidd.

Roedd Prifysgol Abertawe yn enillydd cryf yn ôl y beirniaid, gyda thystiolaeth wych o gydweithio ar draws y sefydliad a phartneriaeth dda rhwng sawl tîm.

Meddai Andrew West, beirniad a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Sheffield: ‘‘Roeddwn yn falch iawn o weld pwyslais ar gydweithio gydag adrannau academaidd, a all fod yn heriol i dimau gwasanaethau myfyrwyr ond hefyd yn allweddol i gefnogi llwyddiant myfyrwyr.’’

Ychwanegodd Sarah Huws-Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: ‘‘Mae hyn yn brawf o’r llwyddiant rydym yn ei gyflawni gyda’n gilydd, yn y Colegau a’r Gwasanaethau Proffesiynol, wrth ddarparu profiad o ansawdd uchel i’n myfyrwyr. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cynorthwyo ar hyd y daith.’’

SS Award Logo