Cyflwyno Cyfrol Ysgrifau Beirniadol i Ysgolhaig Blaenllaw

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd cyfrol Ysgrifau Beirniadol XXXI yn cael ei chyflwyno i’r Athro M. Wynn Thomas, deilydd Cadair Emyr Humphreys yn Llên Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.

M Wynn Thomas 2

Bydd y gyfrol newydd yn cael ei chyflwyno i’r awdur toreithiog nos Iau 21 Mawrth er mwyn cydnabod ei ddylanwad mawr ar ddiwylliant Cymraeg yn ogystal â’i wasanaeth i ddwy lenyddiaeth Cymru dros y blynyddoedd.

Dyma’r gyfrol gyntaf o dan olygyddiaeth yr Athro Tudur Hallam o Brifysgol Abertawe a’r Dr Angharad Price o Brifysgol Bangor a bydd yn cael ei chyflwyno i’r cyhoedd mewn digwyddiad a fydd yn cyd-daro yn y ddau le am 5yh.

Yn lansiad y de, bydd yr Athro Tudur Hallam yn cyflwyno copi o’r llyfr i’r Athro M. Wynn Thomas, a cheir cyfweliad dadlennol rhwng y ddau academydd yn y gyfrol.

Yn lansiad y gogledd, bydd y Dr Angharad Price a rhai o’r cyfranwyr yn trafod eu gwaith a’u gobeithion ar gyfer y gyfres.

Mae’r gyfrol yn cynnwys darnau gan nifer o gyfranwyr newydd ac mae’r ysgrifau amrywiol yn adlewyrchu eu hawydd i drafod amrywiaeth o destunau Cymraeg mewn modd gwreiddiol a chreadigol, a hynny’n aml mewn cyd-destun rhyngwladol.

Un o’r rheiny yw Hannah Sams, myfyrwraig ôl-radd gydag Academi Hywel Teifi. Testun ei hysgrif yw ‘Ailymweld â Theatr yr Absẃrd’ sy’n deillio’n rhannol o'i thraethawd ymchwil MA ar waith Gwenlyn Parry a Theatr yr Absẃrd.

Ceir ynddi drafod difyr ar bob math o lenorion o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys Taliesin, Dafydd ap Gwilym, Daniel Owen, Saunders Lewis, Kate Roberts, Dic Jones, Eurig Salisbury, Hywel Griffiths ac Aneirin Karadog heb anghofio Gustave Flaubert a Georges Sand.

Meddai Tudur Hallam, Athro’r Gymraeg a Chyfarwyddwr Ymchwil Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: ‘‘Cymaint ei gyfraniad i lên Saesneg Cymru, fel y mae’n hawdd anghofio am sut y mae’r Athro M. Wynn Thomas wedi ysbrydoli awduron a beirniaid llenyddol Cymraeg i feddwl yn greadigol yn eu hiaith. Mae’n dda iawn gennym gyflwyno’r gyfrol hon iddo, yn gydnabyddiaeth fechan o fesur ei ddylanwad mawr ar y diwylliant Cymraeg.’’

Ychwanegodd yr Athro M. Wynn Thomas: ‘‘Wnes i ddim erioed dychmygu’r fath anrhydedd. Cariad at yr iaith, yn unig, a’m symbylodd i ymdrechu i lunio ysgrifau a chyfrolau yn y Gymraeg, ac felly mae cael fy nghydnabod fel un sydd wedi gwneud cyfraniad o ryw fath i ddiwylliant deallusol cyfoethog  fy mamiaith yn rhoi’r boddhad mwyaf posib i mi.’’

Cynhelir lansiad Prifysgol Abertawe yn Ystafell Seminar Llyfrgell y Brifysgol, rhif 703. Cynhelir lansiad Prifysgol Bangor yn Stiwdio Stryd y Deon, Adeilad Cymraeg i Oedolion.