Cyfres Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth Prifysgol Abertawe: "Meeting Thomas Merton"

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Y siaradwr gwadd ar gyfer y ddarlith nesaf yn y gyfres fydd yr awdur, Jim Forest.

Sefydlwyd y Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe gan y Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan yn y Brifysgo,l ac mae wedi cynnwys arweinwyr eglwys o fri rhyngwladol ac academyddion blaenllaw o ledled y byd, sydd wedi siarad ar ystod o wahanol destunau.

Jim Forest

Teitl: "Meeting Thomas Merton"

Siaradwr: Jim Forest

Dyddiad: Dydd Mercher, 15fed Mai 2013

Amser: 7pm

Lleoliad: Darlithfa James Callaghan, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Yn rhad ac am ddim, croeso i bawb

Crynodeb: Mae Jim Forest yn awdur, yn ddiwinydd uniongred lleyg, ac yn actifydd ar gyfer heddwch.

Bydd ei ddarlith am ei gyfaill, Thomas Merton, yn gyfle gwych i glywed mwy am y mynach Sistersaidd o Gatholig y tybir ei fod yn un o'r awduron gorau ar ysbrydolrwydd yn yr 20fed ganrif. Ysgrifennodd Forest fywgraffiad ar Merton ac, yn ei dro, cyflwynodd Thomas Merton ei lyfr 'Faith and Violence' i Jim Forest.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan, Prifysgol Abertawe. Ffôn: 01792 205678 est. 4442, neu e-bost:  n.john@abertawe.ac.uk