Cymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig 2013: Anrhydeddau i academyddion Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cyhoeddi canlyniad Etholiad 2013 am Gymrodyr newydd.

Ymhlith y rhai hynny o Brifysgol Abertawe a enwir gan y Gymdeithas Ddysgedig i'w hanrhydeddu eleni y mae:

-          Yr Athro Catherine Belsey FLSW, Athro Ymchwil, yr Adran Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

-          Yr Athro Kenneth Board FREng FIEE FLSW, Athro Ymchwil, y Coleg Peirianneg

-          Yr Athro Jonathan Bradbury FLSW, Athro mewn Gwyddor Wleidyddol, yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol, Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

-          Yr Athro Ceri Davies DLitt FLSW, Athro Emeritws yn y Clasuron, yr Adran Hanes a'r Clasuron, Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

-          Yr Athro Iwan Davies FLSW, Athro Sir Julian Hodge yn y Gyfraith a Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladoli a Materion Allanol) Prifysgol Abertawe; bargyfreithiwr (Ysbyty Gray)

-          Yr Athro David Gethin FIMechE FLSW, Athro mewn Peirianneg Fecanyddol, y Coleg Peirianneg

-          Yr Athro Simon Hands FLSW, Athro mewn Ffiseg a Chyfarwyddwr Ymchwil, y Coleg Gwyddoniaeth

-          Yr Athro Nidal Hilal DSc FICHEME FLSW, Athro mewn Peirianneg, y Coleg Peirianneg

-          Yr Athro Timothy Hollowood FLSW, Athro mewn Ffiseg, y Coleg Gwyddoniaeth

-          Mr Emyr Humphreys DLitt FRSL FLSW, Awdur

-          Yr Athro Mark Humphries FLSW, Athro mewn Hanes yr Henfyd, yr Adran Hanes a'r Clasuron, Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

-          Dr Christine James FLSW, Uwch-ddarlithydd, Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe ac Archdderwydd etholedig Gorsedd  Beirdd Ynys Prydain

-          Yr Athro Gareth Elwyn Jones MBE FRHistS DLitt FLSW, Athro Anrhydeddus mewn Addysg, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe; cyn Athro mewn Addysg a Deon y Gyfadran Addysg, Prifysgol Aberystwyth.  Mae'n ddrwg iawn gan y Gymdeithas nodi y bu farw’r Athro Gareth Elwyn Jones, a gafodd ei ethol yn Gymrawd yn ystod Cylch Etholiad 2012/13, ar 20 Ebrill 2013.

-          Yr Athro Steven Kelly FSB FRSC FLSW, Athro mewn Geneteg Ficrobaidd a Bioleg Ficrobaidd, y Sefydliad Gwyddor Bywyd

-          Dr Gwyneth Lewis FRSL FLSW, Bardd (cyn Fardd Cenedlaethol Cymru) a Chymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol, Prifysgol Abertawe

-          Yr Athro Keith Lloyd FRCPsych FLSW, Athro mewn Seiciatreg a Deon y Coleg Meddygaeth

-          Yr Athro Ronan Lyons FFPH FFPHMI FLSW, Athro mewn Iechyd Cyhoeddus, y Coleg Meddygaeth

-          Yr Athro Peter Stead FLSW, cyn Uwch-ddarlithydd, a Chadair, yr Adran Hanes, Prifysgol Abertawe, Gwobr Dylan Thomas am lenyddiaeth ac Athro Gwadd, Prifysgol De Cymru

-          Yr Athro Harold Thimbleby FIET FLSW Athro mewn Cyfrifiadureg, y Coleg Gwyddoniaeth

-          Yr Athro Stephen Wilks FInstP FLSW, Pennaeth y Coleg Gwyddoniaeth a Chyfarwyddwr, y Ganolfan NanoIechyd

Mae etholiad eleni wedi cryfhau’r Gymdeithas yn sylweddol, gan ychwanegu chwe deg a naw o Gymrodyr i’w rhengoedd.

Yn debyg i’r Cymrodyr Cychwynnol a’r Cymrodyr a etholwyd yn 2011 a 2012, mae’r Cymrodyr newydd yn cynrychioli ystod eang o ddisgyblaethau academaidd. Mae’r rhan fwyaf wedi’u lleoli mewn prifysgolion yng Nghymru ond mae nifer mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig neu dramor.

Dywedodd Syr John Cadogan, Llywydd y Gymdeithas: "Rydym unwaith eto wedi ethol cohort cryf o Gymrodyr newydd, i ychwanegu at y rhestr ragorol o Gymrodyr Cychwynnol a Chymrodyr.

"Dros y blynyddoedd nesaf, bydd ein Cymrodoriaeth yn parhau i dyfu drwy etholiad a fernir drwy adolygiad gan gymheiriaid. Bydd cael eu hethol yn parhau i fod yn darged i’n hysgolheigion ifanc."

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad hwn gan y Gymdeithas Ddysgedig ar etholiad y Cymrodyr newydd ar gyfer 2013.

"Mae Cymrodoriaeth y Gymdeithas yn cynrychioli'r lefelau uchaf o ragoriaeth a chyrhaeddiad academaidd ac mae'n bleser gweld cymaint o'n cydweithwyr nodedig o Abertawe'n cael eu hanrhydeddu yn y modd hwn."

Etholir i Gymrodoriaeth y Gymdeithas Ddysgedig drwy drefn o enwebiadau gan Gymrodyr cyfredol. Mae ar agor i ddynion a menywod o bob oed ac o bob grŵp ethnig:

-          sydd â hanes clir o ragoriaeth a chyflawniad mewn unrhyw un o'r disgyblaethau academaidd, neu, a hwythau'n aelodau o'r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg; ac

-          sydd yn preswylio yng Nghymru, neu sydd yn unigolion sydd wedi'u geni yng Nghymru ond sy'n preswylio mewn man arall, neu sydd fel arall â chyswllt penodol â Chymru.