Darlithoedd Disglair Cyfrifiadureg Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Teitl y Ddarlith: Chip and Skim

Siaradwr: Yr Athro Ross Anderson FRS, Prifysgol Caergrawnt

Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Chwefror 2013

Amser: 4:00pm

Lleoliad: Ystafell Robert Recorde, Lefel 2, Adeilad Faraday, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim a chroeso i bawb

Arall: Gweinir lluniaeth ar ôl y ddarlith

Crynodeb o’r ddarlith:

Yr her fawr y mae gwyddonwyr cyfrifiadureg yn ei hwynebu yw adeiladu systemau technegol-gymdeithasol cymhleth a byd-eang, megis gridiau smart a systemau cludiant deallus. Astudiaeth achos diddorol yw'r rhwydwaith talu ar gyfer cardiau banc. Gyda thros 20,000 o fanciau, miliynau o fasnachwyr, a biliynau o gardiau, mae'r system dalu fyd-eang yn denu ymosodwyr galluog tra ei bod hefyd yn dioddef yn sgil dadleuon rhwng banciau a chyrff eraill ynghylch ffioedd, safonau technegol, ac atebolrwydd. Byddaf yn trafod cyfres o fethiannau technegol a hwylusodd dwyll.  Roedd eu hachosion yn amrywio, gan gynnwys manylebau cymhleth a dyrys, ardystio gwael o ran terfynellau, methiant protocolau a Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau, a llywodraethu gwael. Mae llwyddiant ymdrechion o fewn y diwydiant i fynd i'r afael â'r rhain wedi amrywio. Mae'r astudiaeth achos hon yn dysgu llawer o wersi am ryngweithio peirianneg ac economeg, ac yn rhoi mewnwelediad i anawsterau rheoli systemau ar raddfa fyd-eang.

Gwybodaeth am y siaradwr:

Mae Ross Anderson yn Athro Peirianneg Ddiogelu ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae'n un o sylfaenwyr disgyblaeth academaidd newydd a bywiog, sef economeg diogelwch gwybodaeth. Mae Ross yn arbenigwr hefyd ar systemau talu.  Mae wedi cyhoeddi llawer o waith ar dwyll a methiannau rheoleiddio. Yn y 1990au, gwnaeth gyfraniad arloesol i'r cysyniad o systemau cymar-i-gymar, ac ef ddyfeisiodd yr algorithm amgryptio "Serpent", a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth y Safon Amgryptio Uwch. Mae ei gyhoeddiadau ar lawer o faterion eraill yn ymwneud â diogelwch, megis caledwedd gwrthsefyll ymyrraeth, diogelwch allyriadau, a chadernid Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau, yn enwog iawn. Mae'n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol, yr Academi Frenhinol Peirianneg, y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, a'r Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau. Ef hefyd ysgrifennodd y llyfr testun safonol: Security Engineering – a Guide to Building Dependable Distributed Systems. 

Cefnogir y ddarlith hon gan Gynghrair Meddalwedd Cymru.